www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Argraffiadau o Gymdeithasfar Gogledd
 

Capel Maen-Gwyn, Machynlleth Hydref 2007

 

Yn gynnar ar fore heulog fe deithiodd pedwar ohonom i lawr o Fn i Fachynlleth ar gyfer y Gymdeithasfa. Wedi cyrraedd Capel Maen-Gwyn profasom groeso cynnes, yn amlwg roedd y pwyllgor lleol wedi paratoi yn drylwyr ar gyer ymweliad y Sasiwn.

  Cefais yr argraff yn wyneb y newidiadau sydd wedi bod yn strwythur y Cyfundeb bod yna awydd pendant yn y Gymdeithasfa i wynebu her ein cyfnod a cheisio cryfhau ein tysiolaeth am awdur a pherfeithydd ein ffydd, Crist Iesu.

  Llywyddwyd eisteddiadaur Gymdeithasfa gan y Llywydd, Mr. Rheinallt Thomas, gydai hiwmor iach ai frwdfrydedd arferol gan gydnabod ei ddyled i Ysgrifennydd y Gymdeithasfa, Mr. Meurig Royles am gydwybodolrwydd ei waith. Ar l ymgymeryd r etholiadau fen hysbyswyd mai y Parchedig Gareth Edwards, Porthmadog a benodwyd yn Llywydd etholedig y Gymeithasfa a Mr. Idris Hughes, Llanelwy yn Drysorydd. Yn ystod y bore croesawodd y Llywydd Miss Mari Fflur Williams iw swydd newydd fel Swyddog Cyfathrebu y cyfundeb ac fe ddatganodd Mari yn llawn brwdfrydedd ei hawydd i roi mwy o gyhoeddusrwydd i waith y Cyfundeb ar Eglwysi gan ddefnyddio y dulliau modern sydd ar gael heddiw.

  Cafwyd adroddiad diddorol a chynhwysfawr gan ein Hystadegydd, Ms Rhian Williams, Blaenau Ffestiniog, wedi ei sylfaenu ar ystadegaur henaduriaethau. Fe danlinellodd ein bod yn gyfarwydd chlywed am ostyngiad y rhai syn mynychu ein Heglwysi o Sul i Sul ond roedd hin falch o gyfeirio bod cynnydd mewn rhai Eglwysi, hyn o ganlyniad yn bennaf i arbrofi gyda gwasanaethau newydd a gwahanol.

  Cawsom ginio blasus a mwynhau cwmnaeth difyr wrth y byrddau.

  Yn ystod yr ail eisteddiad cyflwynwyd Hanes yr Achos yn Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf gan y Parchedig M. J. Morris. Ymddiddanwyd ag ef gan y Parchedig Ifor ap Gwilym, Abergele. Fe gafodd M. J. Morris ei eni ai fagu o fewn yr Henaduriaeth hon. Balch oedd Ifor ap Gwilym o gael gwrando Hanes yr Achos gan ei fod wedi ei godi ir weinidogaeth ym Maen-Gwyn lle bu ei ddiweddar dad, y Parchedig William Williams yn weinidog. Cafwyd llyfryn gan M. J. Morris sydd yn ddifyr a chynhwysfawr gydar teitl, Gwinllan a roddwyd in gofal . . .. Roedd y llyfryn wedi ei rannu yn dri rhan er mwyn olrhain Hanes yr Achos yn yr Henaduriaeth ddoe, heddiw ac ir yfory, dan y penawdau canlynol: 1) Etifeddiaeth; 2) Stiwardiaeth; 3) Ymddiriedaeth.

  Cafwyd darlun cywir or sefyllfa yn Nhrefaldwyn Uchaf. Soniodd am yr anawsterau sydd yn wynebu pob Henaduriaeth erbyn hyn ac wrth wynebur her fe fynegodd y gallwn edrych ar bob rhyw newid fel bygythiad neu addewid. Datganodd bod mwy o gyd-addoli erbyn hyn o fewn yr Henaduriaeth a gorffennodd ar nodyn cadarnhaol gan ein hatgoffa mai rhywbeth i fyw ac nid i farw yw Eglwys Iesu Grist. Ymhellach yn yr eisteddiad anerchwyd ni gan y Parchedig Ifan Roberts, yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Fen hatgoffodd o nifer o bethau, yn cynnwys bod Cyngor Ysgolion Sul, trwy Cyhoeddiadaur Gair wedi darparu adnoddau newydd fydd yn apelio ir plant ar ieuenctid o fewn ein hysgolion Sul. Anogodd athrawon Ysgol Sul i wneud defnydd or gwerslyfrau newydd. Pwysleisiodd yr her sydd yn wynebur henaduriaethau newydd i gynllunio ar gyfer gweinidogaeth a chenhadaeth ir dyfodol. Cydnabyddodd yn ddidwyll ei ddyled ir staff yn y swyddfa yng Nghaerdydd am eu cefnogaeth barhaol.

  Cyflwynwd adroddiad ar Apl Cymorth Cristnogol er budd Sierra Leonne, gwlad dlotaf y byd, gan y Parchedig Brian Huw Jones, Prestatyn. Fen hysbysodd nad oedd yr apl wedi cyrraedd ei nd ariannol eto ac apeliodd ar yr eglwysi i anfon eu cyfraniadau i drysoryddion yr Henaduriaethau er mwyn cynorthwyo Partneriaid Cymorth Cristnogol i alluogi pobl Sierra Leonne i ddatrys yr argyfyngau a wynebant.

  Am bedwar y prynhawn roedd y byrddau wedi ei harlwyo ar ein cyfer unwaith yn rhagor. Fe fwynhawyd y te, a chafwyd cyfle i groesawur cynrychiolwyr o Gymdeithasfaoedd y De ar Dwyrain, a Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, sef y Parchedig John Owen, Rhuthun. Ar l i Lywydd y Gymdeithasfa fynegi ein diolch ir pwyllgor lleol am y te ar holl ddarpariaethau ar ein cyfer, fe ymatebodd ar ran y chwiorydd gan Mr. Harri Evans, blaenor yng Nghapel Maen-Gwyn.

  Cafwyd orig i ddatgan ein gwerthfawrogiad i flaenoriaid a wasanaethodd eu Heglwysi ar cyfundeb am gyfnodau maith. Cyflawnwyd y weithred hon yn ddiffuant a chydag urddas gan Mr. Rheinallt Thomas a Chadeirydd Cyfarfod y Blaenoriaid, Mr. Alun Wigley, Llawr y Glyn. Ar ddiwedd yr eisteddiad darllenodd yr Ysgrifennydd restr or blaenoriaid a fu farw ac fen harweiniwyd mewn gweddi gan y Parchedig Megan Williams, Dolgellau.

  Roedd y pwyllgor lleol yn benderfynol o sicrhau ein bod fel cynrychiolwyr yn cael ein gwala wrth baratoi lluniaeth arall ar ein cyfer cyn yr eisteddiad olaf!

  Ar ddechrau y pedwerydd eisteddiad, llongyfarchwyd gweinidogion am gyfnodau hir o wasanaeth yn y cyfundeb. Roedd y Parchedig Emrys W. Thomas, Caernarfon yn dathlu trigain mlynedd, y Parchedigion John Curig Thomas, Wrecsam a Iorwerth Jones Owen, Caernarfon, yn dathlu hanner can mlynedd ar Parchedig R. W. Jones, Wrecsam wedi cyflawni deugain mlynedd ers ei ordeinio. Ymddiheurodd y Parchedigion Emrys W. Thomas ac Iorwerth Jones Owen am eu hanallu i fod yn bresennol ac fe anfonwyd ein cofion at y ddau. Wrth ymateb fe fynegodd y Parchedigon John Curig Thomas ac R. W. Jones eu gwerthfawrogiad am y fraint o gyhoeddi Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist ar hyd y blynyddoedd, au diolchgarwch ir Cyfundeb am eu gofal drostynt fel Bugeiliaid.

  Gweinidog y Llywydd, y Parchedig Jim Clarke, Llanfairpwll a draddododd Anerchiad y Cymun. Cododd ei destun o Lythyr Paul at y Corinthiaid, y ddegfed bennod, rhan or bumed adnod, Ni ddymunaist aberth ac offrwm ond paratoaist gorff i mi. Mynegodd y Parchedig Jim Clarke bod Offeiriaid yr hen genedl yn ail-adrodd y ddefod o aberthu dro ar l tro, ond fe ddengys llythyr Paul at yr Hebreaid na allwch gymharu yr hen aberthau ac aberth y Crist ei Hun, O Iesu mawr, pwy ond tydi allasai farw drosom ni. Awgrymodd bod trigolion y ddaear oll yn chwilio am lanhad a phobl yn troi i bob cyferiaid, ond at yr Hwn syn cynnig glanhad o bob amhuredd a phechod. Fen hanogodd i brofi effeithiolrwydd Corff yr Arglwydd Iesu Grist; Corff yr Eglwys Bresbyteraidd Cymru; Corff yr Eglwys; wrth gyfranogi or bara ar gwin.

  Cyn-lywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, y Parchedig Gwenda Richards, Caernarfon a weinyddodd wrth fwrdd y cymun. Ar l derbyn or elfennau, wedi profir hedd na chwerwir ei fwynhad mewn oedfa fendithiol iawn, terfynwyd y gwasanaeth gydar fendith.

  Daeth yr amser ir pedwar ohonom fel cynrychiolwyr o Henaduriaeth Mn i droi tuag adref. O fewn diwrnod roeddem wedi derbyn croeso twymgalon i Gapel Maen-Gwyn, wedi profin helaeth o fwynder Maldwyn ac yn anad dim, wedin hysbrydoli i beidio, gorffwys ar ein rhwyfau, ond wynebu sialens y dyfodol yn hyderus gan wybod bod ein Tad Nefol yn bendithio ein hymdrechion,

ein hanrhydedd ydyw arddel,

 meistr y cynhaeaf mawr.

 

Y Parchedig C. J. Prew, Llangefni.

 

Y Llywydd, Mr Rheinallt Thomas yn cyfarch y Llywydd etholedig, y Parchedig Gareth Edwards 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 04/12/2007