Roedd y rhai ohonom a fu ar Gwrs Blaenoriaid yn
Nhrefeca or blaen yn edrych ymlaen yn eiddgar at y
cwrs eleni a gynhaliwyd or 9fed ir 11eg o
Dachwedd, ac ni chawsom ein siomi. Roedd y rhaglen
brintiedig yn ddiddorol, ond fe arweiniwyd bob
sesiwn gydar fath frwdfrydedd ac egni fel ir
penwythnos cyfan fod yn brofiad gwirioneddol
gyfoethog i bawb oedd yno. Cawsom groeso cynnes fel
arfer gan Mair ar staff.
Arweiniwyd sesiwn nos Sadwrn gan y Parch. D.
Andrew Jones, Cyfarwyddwr y Bwrdd Bywyd a
Thystiolaeth. Amlinellodd y newidiadau a fydd yn
digwydd fel y bydd Henaduriaethau yn newid a rhai yn
uno. Ar wahn ir eglurhad manwl a gawsom or patrwm
ailstrwythuro, cawsom ein hatgoffa or adnoddau
ysbrydol pwerus sydd yn ein meddiant mewn
Addoliad
Gweddi ac Astudiaeth Feiblaidd
Y Sacramentau
Cymdeithas yr Eglwys.
Ym mhob agwedd ar ein tystiolaeth gelwir arnom i
fyw yr Efengyl yn lleol, yn ymarferol ac wrth
ymestyn allan ir byd.
Pwnc sesiwn bore Sadwrn o dan arweiniad y Parch.
Roger E. Humphreys oedd, Yr Eglwys yng nghefn
gwlad. Roedd yr hyn a drafodwyd yn berthnasol
hefyd ir rhai hynny ohonom syn byw ac yn gweithio
mewn sefyllfaoedd trefol yn ogystal. Pwysleisiwyd y
pwysigrwydd o fapio allan ein tiriogaeth i ganfod
problemau a chyfleoedd ac i chwilio am ffyrdd
ymarferol o gynorthwyo a chefnogi ein gilydd. Gall
eglwys leol
rannu egni adfywiol Duw trwy garu a gwasanaethu
pobl yn y sefyllfa leol;
fod yn llais di-duedd wrth wyntyllu problemau;
fod yn bont rhwng gwahanol grwpiau
fod yn gyswllt rhwng yr awdurdodau statudol ar
sector gwirfoddol.
Y Parch. T. Evan Morgan, Salem, Treganna, a
gyflwynodd y testun Pontior Gagendor. Sut maer
eglwys heddiw i gyflawni comisiwn yr Arglwydd Iesu i
wneud disgyblion or holl genhedloedd (Math. 28:
19-20)? Amcan pontior gagendor rhwng yr eglwys ar
gymuned yw cyflwyno Iesu Grist i bobl. I wneud
hynnyn effeithiol rhaid ir eglwys ymddangos yn
berthnasol, yn eiddgar ac yn barod i helpu pobl.
Rhoddwyd sylw ir gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio
ein hadeiladau i greu perthynas ag unigolion,
cymdeithasau, gwaith cymunedol ac ysgolion. Unwaith
eto pwysleisiwyd y pwysigrwydd o fod yn effro i
anghenion lleol.
Mentora oedd pwnc Rhian Williams yn y sesiwn ar
l cinio. Bydd cyflwyniad ir pwnc ar gael ar CD ir
eglwysi ym mis Ionawr fel rhan or Rhaglen Genhadol.
Cawsom gyfle i edrych ar wahanol sefyllfaoedd o fewn
ein heglwysi ac i ymateb iddynt trwy dynnu ar ein
profiadau ein hunain. Trafodwyd sut orau y gellid
meithrin a mentora pobl yng ngwaith yr eglwys. Roedd
hyn yn sialens inni edrych ar ein heglwysi ein
hunain a sylweddoli pa mor bwysig yw inni weithio
fel tm gan gynnal a chynorthwyon gilydd. Dywed
Paul wrth y Philipiaid pa mor bwysig yw inni
efelychu Iesu yn ei ostyngeiddrwydd ai wasanaeth i
eraill.
Ar l swper cafwyd cyflwyniad DVD ar Ofal
Bugeiliol gan y Parch. Elwyn Richards. Codwyd y
cwestiwn, pam y mae gofal bugeiliol yn bwysig?
am fod pobl mewn poen a phryder am lawer o
resymau;
am fod Iesu wedi gorchymyn inni ofalu am ein
gilydd;
am fod gofalu am ein gilydd yn gwneud impact ar
y byd.
Buom yn cyfnewid profiadau o dderbyn a rhannu yng
ngweinidogaeth gofal. Gofynnwyd inni hefyd ymateb i
gynnwys y DVD.
Daeth pob dydd i ben gydag epilog. Yn ystod y bore
olaf arweiniwyd ni mewn addoliad gan Mrs Val Martin.
Cymerodd fel thema eiriau Iesu, Gwnewch hyn er cof
amdanaf, a gofynnodd am ein hymateb ir cwestiwn,
beth mae Iesun ei ofyn oddi wrthyf? Roedd y lolfa
oedd wedi ei pharatoi ar gyfer addoliad, myfyrdod,
distawrwydd a digon o le i ni fynegin hunain yn
greadigol. Ar y llawr gosodwyd lliain ar ffurf croes
gyda sawl pabi coch a gwyn arni, un gannwyll wen a
nifer o ganhwyllau bychain. O amgylch y groes
gosodwyd gwahanol ddyfyniadau ac adnodau a chafwyd
cerddoriaeth addas in helpu yn ein myfyrdod. Yn
dilyn emynau, darlleniadau beiblaidd a myfyrdod
llifodd y gwasanaeth yn naturiol ir Cymun Bendigaid
a arweiniwyd gan y Parch. Elwyn Richards. Roedd yr
addoliad yn uchafbwynt perffaith i benwythnos a fu
o fudd a bendith i bob un ohonom.
Ar l coffi trefnwyd dyddiadau y Penwythnos
Blaenoriaid ar gyfer 2008, sef Tachwedd 16-18.
Gofynnir i flaenoriaid roir dyddiad yn eu
dyddiaduron ar unwaith. Hoffem weld mwy yn manteisio
ar y ddarpariaeth werthfawr hon. Aethom am adref yn
ddiolchgar fod gennym ganolfan fel Trefeca in
porthi, ein hadnewyddu an calonogi i barhau i ymroi
yng ngwasanaeth yr Arglwydd.
Gloria Davies, Trinity, Wrecsam (Cyf.)