|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Diwedd y Daith
Oherwydd uniad yr
Henaduriaethau y flwyddyn nesaf, cynhaliwyd Cymanfa Ganu
Henaduriaeth Wrecsam am y tro olaf ar brynhawn Sul olaf
Medi 2007, yng Nghapel Y Groes, Wrecsam. Llywyddwyd y
gwasanaeth gan Y Parch. Rhys ap Ogwen Jones, Llywydd yr
Henaduriaeth. Y Parch. Robert Parry, B.D., Mus.Bac oedd
yr arweinydd gwadd, gyda Mrs Mair Carrington Roberts yn
l gartref o Lanfair-y-Pwll i gyfeilio ar yr organ, y
gwaith a wnaeth laweroedd o weithiau ynghyd ac arwain y
gymanfa.
Cawsom item gan gr Merched Y Rhos, dan arweiniad Mrs
Cheryl Vaughan, cr a ddaeth yn fuddugol yn yr
Eisteddfod Genedlaethol ac hefyd yn drydydd yn Eistedfod
Ryngwladol Llangollen. Ar l clirior costau
trosglwyddwyd y casgliad o 135 fel yr arfer at waith
Tyr Eos, Wrecsam.
Cynhaliwyd y Pwyllgor Mawl cyntaf yn y flwyddyn 1951 a
daeth Mr R. J. Thomas, Tainant yn ysgrifennydd a Mr J.
Henry Lloyd, arweinydd Cr Meibion Y Cymau ir gadair.
Oherwydd anfodlonrwydd eglwysir Henaduriaeth ni chafwyd
Cymanfa Ganu hyd 1965 a honno unwaith ar brawf. Yng
Nghapel Mawr Y Rhos cynhaliwyd y gyntaf, a honno dan
arweiniad Dr Oliver Edwards. Dyma adroddiad am y Gymanfa
a ddangosodd yng Ngoleuad Tachwedd 1965 Canu gwresog
ac addolgar mawl i Dduw mewn gwirionedd. Er nad oedd y
cynulliad yn deilwng o gofio mai cymanfa i holl
Eglwysir Henaduriaeth oedd, teg yw dweud mai arbrawf
oedd rhyw experiment megis, er canfod a yw Cymanfa
Ganu or natur yma yn gymeradwy, ac yn dderbyniol gan yr
eglwysi. Yn gerddorol ac ysbrydol roedd yn llwyddiant
mawr, ond nid mor llwyddianus parthed maintioli y
gynulleidfa. Wedi manteisio ar ffaeleddau y Gymanfa hon,
rhaid ir Pwyllgor Mawl ar Henaduriaeth benderfynu, a
fydd Cymanfa Henaduriaethol y flwyddyn nesaf ai
peidio.
Dyma adroddiad or Goleuad, 8 Ionawr 1966 am
Henaduriaeth Dwyrain Dinbych Derbyniwyd adroddiad
Pwyllgor Mawl: Ein bod yn cynnal Cymanfa Ganu yn 66 yn
Seion Wrecsam ar y Sadwrn cyntaf yn Hydref dan arweiniad
Mr W. Mathews Williams. Er gwaethaf popeth maer
Gymanfa wedi cael ei chynnal yn ddi-dor er hynny, dan
arweiniad yn eu tro Mr Hywel Edwards, Mr Rolant
Morris, Mr T. J. Williams, Mr Peleg Williams, Madam
Lottie Parry Williams, Mr Goronwy Wynne, Mr Rhys Jones,
Mr T. Gwyn Jones, Mr Arthur Vaughan Williams, Mr Tudor
Jones, Mr John Tudor Davies, Mr Aled Lloyd Davies, Mr
John Daniel, Mr Caerwyn Evans, Mr John Glyn Williams,
Mrs Beryl Lloyd Roberts, Mr Keneth Thomas, Mr Emyr James
a Mrs Mair Carrington Roberts.
Llywyddwyd y pwyllgor am gyfnod gan Mr Tecwyn Dodd,
Adwyr Clawdd cerddor gwych a chyfansoddwr amryw o
donau, ac hefyd gan Y Parch. Alun Williams tran
weinidog yn Rhos Ddu, cyfansoddwr y tonau Ty Mawr, a
enwyd ar l ei gartref a Penrhosfeilw ar l ei ardal ai
gapel sydd nepell o Porth Dafarch, gydar creigiau mawr
cadarn ynghanol y mr, lle symbylwyd Morswyn i
gyfansoddi ei emyn mawr, Arglwydd Iesu, arwain fenaid
at y graig sydd uwch na mi.
Bu Mr Edward Jones (Rhosfab), Y Rhos, arweinydd Cr
Meibion Y Rhos yn ysgrifennydd y pwyllgor am gyfnod, a
dyma finnau yr ysgrifennydd olaf yn rhoi pen ar y mwdwl,
trwy ddiolch i bawb fu ar y pwyllgor ar hyd y
blynyddoedd, ac yn hyderu y bydd y Cyfarfod Dosbarth
newydd yn cydio yn y Gymanfa or newydd.
Trefor Lloyd.
 |
|
Or
chwith ir dde: Llywydd, y Parch. Rhys ab Ogwen Jones;
organyddes, Mair Carrington Roberts; arweinydd, Y Parch. Robert
Parry; ysgrifennydd, Trefor Lloyd; trysorydd, Menna Parry. |
 |
|
Cr
Merched Y Rhos |
Yn l i dudalen Y Goleuad
|