www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y GoleuadY Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


DDathlu Dauganmlwyddiant

 

CAPEL TABERNACL, CEI NEWYDD, 1807-2007

 

Ar brynhawn Iau, Mai 24ain, 2007 cafwyd Oedfa o Ddiolchgarwch i ddathlu Daugan­mlwyddiant, Capel Tabernacl, Cei Newydd, yn Henaduriaeth De Aberteifi. Ar ôl misoedd o baratoi, braf oedd gweld nifer dda o gyfeillion o gapeli’r Cei a chyfagos, ynghyd a rhai o gyn-aelodau wedi dod i’r oedfa arbennig yma, ar brynhawn hyfryd.

  Llywyddwyd y gwasanaeth gan y gweinidog, y Parchg. Dilwyn O. Jones. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y rhannau defosiynol ac am groesawu y pregethwr gwadd i’n plith, sef y Parchg. D. Haydn Thomas, B.A., Caerdydd. Braf hefyd oedd cael cwmni, ei briod, Mrs. Doreen Thomas a oedd wedi dod yn ôl i’w hardal enedigol, sef pentref Llanarth, sy’n gyfagos i’r Cei.

  Dewiswyd yr emynau yn ofalus, ac ’roeddynt i gyd wedi eu hysgrifennu ar gyfer oedfa o’r math yma ac wedi cael eu cynnwys ynglyn â threfn yr oedfa mewn taflen a oedd wedi cael ei pharatoi gan Jean Jones. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Avril Watters, un o blant yr eglwys a’r organyddes bresennol.

  Yn ystod yr oedfa cyflwynwyd braslun o hanes y capel gan June Evans, un sydd wedi ei magu yn y capel ac sydd dros chwarter canrif yn flaenores ac yn ysgrifenyddes. Cafodd hefyd y cyfle i gyflwyno y llyfryn a oedd wedi ei ysgrifennu, sy’n rhoddi’r hanes o’r cychwyniad hyd y dydd presennol a hefyd y platiau ’roedd wedi archebu i ddynodi’r ddauganmlwyddiant.

  Wedyn bu Mr. Henry Lloyd, y Trysorydd yn hel ei atgofion, dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, ers iddo ddod i’r Cei o Lledrod. Mae yn flaenor yma ers pedwar deg o flynyddoedd ac yn frawd i’r diweddar Parchg. J. Trefor Lloyd.

  Ar ôl anerchiad pwrpasol a neges hyderus i wynebu y dyfodol, gan y pregethwr gwadd, daeth y rhan gyntaf i ben.

  Dadorchuddiwyd plac i nodi’r achlysur, yn yr ail ran, gan Jean Jones sydd wedi treulio ei hoes yn y capel ac yn ffyddlon iawn i’r oedfaeon a’r holl weithgareddau.

  Y rhan olaf oedd mynd wedyn i’r festri i De’r Dathlu, a oedd wedi cael ei baratoi gan y chwiorydd gweithgar, a chyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd. Yn anfodus methodd Miss Lorraine Jones, Melrose, un a gafodd ei magu yn y capel ond sydd bellach yn ei nawdegau, fod yn bresennol i dorri teisen dathlu a gafodd ei rhoddi a’u haddurno gan yr Ysgrifenyddes. Gofyn­nwyd felly i’r Gweinidog, y Parchg. Dilwyn Jones i wneud yr orchwyl, oherwydd ei fod ef hefyd yn dathlu eleni, pedwar deg o flynyddoedd yn y weinidogaeth, ac wedi treulio dros hanner o’r amser yn yr ofalaeth.

  Cyn troi am adref, ymunodd pump gweinidog ifanc o Korea â ni, maent ar hyn o bryd yn treulio cyfnod yn y coleg yn Selly Oak. Cawsant groeso a chyfle i ymuno yn rhan o’r dathliant, a chyfle i rannu eu profiadau a’u brwydfrydedd Cristnogol, gyda ni.

  

CRYNODEB O HANES YR ACHOS

YN TABERNACL, CEI NEWYDD

 

  Wrth ddathlu Dauganmlwyddiant yr achos a wyth deg o flynyddoedd ers ail agor y capel, ar ôl iddo gael eu adnewyddu tu fewn i gyd, oni bai am y pedair wal a’r to, pleser yw i mi gyflwyno ychydig o’r hanes.

  Erbyn heddiw, mae llawer mwy o sôn am chwiorydd yn cymeryd rhannau blaenllaw yn ein capeli a’n cyfundeb, ond allwn ni yng Nghapel Tabernacl, Cei Newydd ddiolch o’r cychwyn am gyfraniad dwy wraig, Mrs. Catherine Evans, Penwig a Mrs. Catherine Parry, Purlip. Anfonwyd y ddwy yma i ymddiddan â’r Parchedig Ebenezer Morris, Pensarn, i weld a fyddai yn fodlon rhoi caniatâd i adeiladu Capel. Nid ydym yn gwybod pam anfon y ddwy Catherine, yn hytrach na’u gwyr a oedd yn cael eu gweld fel ‘tadau yr achos’. Beth bynnag y rheswm buont yn llwyddianus yn eu cais a’r ateb a gafwyd oedd, “Os yw pethau fel yr ydych yn dweud, rhaid cael capel, ond rhaid i mi ddyfod yno i ddewis y lle i’w godi.”

  Felly mae ein diolch i Ebenezer Morris am ddewis lle delfrydol uwchlaw Bae Ceredigion, i Evan Evans, Penwig am roddi y darn tir, i adeiladu capel arno ac i’r ddwy wraig am fynd ar eu pererindod.

  Eglwys y Plwyf, Llanllwchaiarn oedd yr unig addoldy, cyn i’r Methodistiaid adeiladu y capel cyntaf, – er bod yn ôl cofnodion Trefecca, eglwys wedi eu sefydlu yn 1744 gyda tri ar ddeg o aelodau a ‘dau ar brawf’. Hefyd fod eglwys arall yn yr un flwyddyn, mewn ffermdy o’r enw Coed-y-brain, sydd rhyw bedair milltir o’r Cei.

  Erbyn dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ’roedd yr achos yn gangen o Gapel Ffos-y-ffin. ’Roedd llawer o’r trigolion, yn cerdded yno i’r Oedfa Gymun yn rheolaidd, ond yn eu gweld hi yn bell i fynd yno i bob oedfa, – felly yr angen am gael capel yn y lle.

  Ar ôl cael y safle a’r caniatâd aethant ati i adeiladu, ac agorwyd y drysau am y tro cyntaf yn 1807. Mewn rhyw bum mlynedd darganfuwyd bod y capel yn rhy fach, ac adeiladwyd un mwy yn 1837 ond eto yn fuan nid oedd yn ddigon o faint. Ar yr adeg hynny bu trafodaeth a byddai yn well adeiladu capel newydd, mewn man arall yn y Cei. Ond yn y diwedd yn 1861, pender­fynwyd helaethu’r capel ar y safle bresennol a chodi festri newydd yn 1892, ble ’roedd yr hen Ty Capel a’r Swyddfa Bost a oedd yn cael eu rhedeg yn un o ystafelloedd y Ty Capel.

  Ymhellach ymlaen penderfynwyd adnewyddu tu fewn y capel a’r gwaith coed i fod i gyd yn ‘well seasoned English Oak’ ac i eistedd 1,000 o bobl. Dechreuwyd y gwaith yn Chwefror 1925, ac ail-agorwyd y capel, gyda Gwasanaeth Agoriadol, Nos Fawrth, Mai 24ain, l927. Ar yr un adeg gosodwyd Ffenestr Goffa liwgar a phrydferth i’r Parchg. William Jenkyn Jones, M.A., y cyntaf o’r tri gweinidog a aeth o’r capel i wasanaethu i’r Maes Cen­hadol. Codwyd o’r capel lawer iawn o weinidogion i gyflawni gwaith y weinidog­aeth, ynghyd â William Jenkyn Jones a’i frawd Evan Jones a fu yn genhadon yn Llydaw am flynyddoedd maith a John Ceredig Evans a fu am gyfnod hir  ar Fryniau Khasia.

  Wyth o weinidogion sydd wedi bod yma hyd heddiw. Yng nghyfnod y Parchg. Joseph Jenkins a dan ei arweiniad taniodd fflam Diwygiad 1904-05 yn festri’r capel.

  Mae’r aelodau ar hyd y ddwy ganrif, wedi bod yn ddyledus i’r gweinidogion a’r holl flaenoriaid, i athrawon yr Ysgol Sul ac i’w aelwydydd crefyddol am gael meithrin yn y Ffydd Gristnogol, a thrwy hyn gallwn dystiolaethu heddiw am orffennol gogoneddus a’n bod yma yn addoli o hyd.

  Ganrif yn ôl rhoddwyd carreg ar y mur, i ddatgan pryd yr adeiladwyd y capel ac hefyd y ddau dro arall, pan eangwyd. I nodi’r Ddauganmlwyddiant mae cofeb arall wedi cael ei roddi ar y mur. Er bod yr aelodaeth llawer yn llai erbyn hyn, symudwn ymlaen yn sicrwydd yr adnod a ddewiswyd i’w rhoi ar waelod y gofeb ac i gysegru ein bywydau o’r newydd, i wasanaethu Pen Mawr yr Eglwys.

 

“Wele, y mae’r Arglwydd gyda ni i’n harwain.”

 

June Evans (Ysgrifenyddes)

 

I gwblhau y dathlu, cynhaliwyd Cyngerdd Mawreddog yn y Capel, ar nos Fercher, 29ain o Awst, am 7 o’r gloch. Da o beth oedd gweld pobl leol, aelodau o gapeli cyfagos a rhai ymwelwyr, wedi dod ynghyd i ddathlu a chefnogi.

  Llywydd y noson oedd y Gweinidog, y Parch­edig Dilwyn O. Jones, ac ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno yr artistiaid a’r itemau. Rhoddodd Cadeirydd y noson, Mr. Garry White, sydd yn flaenor gweithgar yng Nghapel Mount Pleasant, Glyn Ebwy, anerchiad byr a phwrpasol yn yr egwyl. Mae ef a’i briod yn ffyddlon iawn i’r oedfaeon Saesneg sy’n cael eu cynnal yn y Tabernacl, yn ystod misoedd yr haf, ac yn gefnogol i holl weithgareddau’r Capel.

  Mae’r capel, yn ddyledus iawn i Mr. Gethin Hughes, M.B.E., Llanelli, am ei barodrwydd a’i allu i drefnu rhaglen, mor amrywiol ac uchelgeisiol. Hefyd am sicrhau unawdwyr o fri, ym mhersonau Eifion Thomas, Llanelli (Tenor); Aled Edwards, Cilycwm (Baritone) a Lavina Thomas, Llandeilo (Contralto). Buom yn ffodus i gael Rhoslyn Hughes, merch fach o’r Cei, sydd a’u theulu yn aelodau, yn y capel, hefyd i’n swyno â chân.

  Yn ystod y cyngerdd, cawsom gerddoriaeth ar yr organ, unawdau a deuawdau, ffefrynnau hen a newydd o’r byd clasurol, i gyd i gyfeiliant meistrolgar Mr. Gethin Hughes. Cafodd y gynulleidfa gyfle i ymuno ar y cychwyn i ganu, “Newyddion braf a ddaeth i’n bro”, ac i orffen y cyngerdd trwy ganu, “To God be the Glory”.

  Rhoddwyd y fendith gan y Parchedig Stephen Morgan ac ’roedd elw y noson yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru.

  Cafwyd noson lwyddiannus a diweddglo teilwng i ddathliadau Dauganmlwyddiant yr Achos. Ymlith disgrifiadau y gynulleidfa wrth adael oedd “gwych”, “ysbrydoledig” a “hynod broffesiynol”. Felly bydd y cyngerdd yn dal yn y cof am fisoedd ac byddwn yn gallu dweud, “Da oedd bod yno.”

  

O’r chwith i’r dde: Parch. D. Haydn Thomas (Pregethwr gwadd); Mrs. Doreen Thomas; Miss June Evans (Ysg.); Parch. Dilwyn O. Jones (Gweinidog); Mrs. Janice Jones; Mrs. Avril Watters (Organyddes) a Mr. Henry Lloyd (Trys.).
O’r chwith i’r dde: Henry Lloyd, Jean Jones (yn dadorchuddio), Parch. Dilwyn O. Jones a June Evans.

Yn ôl i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Lôn Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffôn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 05/02/2008