|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Hynt y Llywydd
Y
Parchedig John Owen, Rhuthun
Nid wyf yn coelio fod bron i chwe mis wedi mynd heibio er pan
ddeuthum i’r Gadair ym mis Gorffennaf. Wrth edrych yn ôl, aeth y
misoedd heibio fel gwynt. Nid yw hynny yn syndod, oherwydd roedd fy
nyddiadur o fis Gorffennaf hyd ddiwedd Tachwedd yn llawn iawn.
Pwrpas hyn o lith, felly, yw rhoi cyfrif o’m goruchwyliaeth hyd yn
hyn. Fel y dywedodd y Cyn-Lywydd, bydd hyn yn osgoi rhestru fy
ngoruchwylion wrth fynd o’r Gadair ym mis Medi.
Cyn mynd i’r Gadair, cefais y fraint o dalu teyrnged i’r Parch.
Marcus Robinson ar derfyn ei weinidogaeth a’r Gaplaniaeth
ddiwydiannol yn y Gogledd Ddwyrain mewn cyfarfod hynod o gynnes a
chartrefol yn Rhostyllen. Cefais y fraint hefyd o gynrychioli’r
enwad yng nghyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr yn Llandudno. Yno,
cefais gyfle i wrando pregeth danbaid gan fy olynydd yn Llanberis, y
Parch. John Pritchard, a gwrando ar anerchiad heriol-dawel, hen
gyfaill coleg, y Parch Dewi Myrddin Hughes, wrth iddo fynd i Gadair
yr Undeb. Cefais wrando ar ddarlith ddramatig Jerry Hunter ar Robert
Everett, gweinidog Annibynnol o Gymro yn America ac ymgyrchydd yn
erbyn caethwasiaeth o dan erledigaeth o fewn a thu allan i’w eglwys.
Wedi dod i’r Gadair, fy ngorchwyl bleserus gyntaf gydag eraill
oedd penodi Mari Fflur yn Swyddog Cyhoeddusrwydd i’r enwad. Mae ei
henw yn hysbys i ni erbyn hyn, a mae ei gwaith eisoes wedi gwneud
gwahaniaeth wrth iddi lwyddo i dynnu sylw’r cyfryngau at bynciau a
drafodwyd gan Adran Eglwys a Chymdeithas yn yr Hydref a thynnu sylw
eang i neges y Llywydd ar drothwy’r Nadolig – dros Glawdd Offa a thu
hwnt i Ynys Brydain! Ar ddydd Mercher yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Genedlaethol yn yr Wyddgrug, bûm yn gyfrifol am gyfraniad defosiynol
ein henwad ym mhabell Cytûn. Gwych oedd gweld ymateb mor deilwng a
chymdeithasu mor braf. Profwyd bod y babell hon yn un o’r rhai
prysuraf os nad y brysuraf yn ystod yr wythnos.
Ddechrau Medi, ar yr wythfed, ymunais ag ymgyrchwyr “Torrwch y
Carbon” ar y cymal olaf o’u taith i Gaerdydd, cyn iddyn nhw anelu am
Lundain. Onid oedd un o’n blaenoriaid ni, John Rowlands, Eglwys y
Crwys, Caerdydd, yn aelod amlwg o’r tîm? Yn y cyfamser, fodd bynnag,
bu’n rhaid i’r Cyn-Lywydd a minnau fod ynglyn â chwyn arbennig a
oedd yn golygu cynnal nifer o gyfweliadau led-led Cymru. Yn
anffodus, o flaen y Nadolig, ymddengys bod cwyn arall i ddelio â hi.
Ond dyna un o gyfrifoldebau’r Llywydd a’r lleiaf dymunol ohonyn nhw.
Ddiwedd Medi daeth y newydd trist am ymadawiad yr hynaf o’n
Cyn-Lywyddion, y Parch. Morgan R. Mainwaring. Braint oedd cael bod
yn angladd yr hynafgwr hynaws a diymhongar hwn. Fydd ein Cymanfa
fyth yr un fath heb ei gyfraniad doeth a’i hiwmor braf.
Cefais wahoddiad i ymweld â dwy gynhadledd fuddiol dros ben; “Ôl
ein Troed,” Penwythnos Cymorth Cristnogol yn Nhrefeca” gan fod yn
gyfrifol am yr oedfa/astudiaeth Feiblaidd ar fore Sadwrn, a
Chynhadledd C.W.M.(Ewrop) yng Nghaerdydd gan fod yn gyfrifol am yr
oedfa/astudiaeth feiblaidd agoriadol. Y Greadigaeth oedd consarn y
naill ac adeiladu cymunedau oedd consarn y llall. Daeth gwahoddiad
i bregethu yng nghapel Biwmares ar achlysur ei agor ar ei newydd
wedd ac i gymryd y defosiwn yng nghyfarfod olaf o Henaduriaeth
Cheshire, Flint and Denbigh yn Rhuthun.
Ym Medi a Hydref, mynychais y tair Sasiwn yn eu tro, a mwynhau eu
croeso – Moreton (Dwyrain), Llanymddyfri (De) a Machynlleth
(Gogledd). Roedd gweithgareddau’r Dwyrain yn dra bywiog, rhai’r De
yn gymharol hamddenol, a rhai’r Gogledd rywle yn y canol. Er ein bod
yn perthyn i Sasiynau gwahanol gyda chymeriad a nodweddion gwahanol,
eto, yr ydym yn perthyn i’r un Cyfundeb. Mae’r amrywiaeth hwn o fewn
y Cyfundeb yn ddameg addas ar gyfer ein hoes. Y mae parchu ein
gwahaniaethau yn greiddiol i ddyfodol ein gwlad a’n byd.
Roedd tymor y Byrddau newydd a’r Paneli/Adrannau yn hwy, gan
barhau o Fedi hyd Dachwedd. Cafodd ein Hysgrifennydd Cyffredinol ei
synnu gan y presenoldeb uchel ar y Byrddau a’r Paneli/Adrannau. Mae
hyn yn galonogol iawn, oherwydd mae trefn newydd yn rhoi cyfle i
gychwyn newydd ac i grisialu o’r newydd ein blaenoriaethau fel
eglwys. Ymddengys i mi mai’r peiriant sydd yn rhedeg y Cyfundeb yw
Bwrdd y Gymanfa. Yr olew sydd yn gyrru’r peiriant yw’r arian a’r
adeiladau y mae’r Bwrdd Adnoddau ac Eiddo yn gyfrifol amdanyn nhw.
Ond y Bwrdd pwysicaf oll yw Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth, am mai hwn
yw’r Bwrdd sy’n tynnu ein sylw at ein bodolaeth a’n cenhadaeth fel
Eglwys i’r Arglwydd Iesu Grist.
Bûm yn bresennol mewn cyfarfod o Adran Coleg Trefeca a chyfarfod
o Adran Coleg y Bala, y naill a’r llall yn wynebu ar gyfnod newydd.
Daeth goruchwyliaeth newydd i’r Bala ac y mae cynllunio ar gyfer y
dyfodol ar dro eisoes, ac y mae Trefeca yn wynebu cyfnod o addasu’r
adeiladau ac ychwanegu atyn nhw gyda sefydlu Canolfan Treftadaeth
(ar y cyd gyda Phanel y Gymdeithas Hanes). Sôn am y panel, mae yna
drafod cynlluniau cyffrous ar gyfer cwblhau hanes y Cyfundeb hyd yn
hyn. Ar y Panel Rhaglen Genhadol, cefais gyfle i groesawu
partneriaid o dan y Rhaglen Genhadol: Llinos Roberts, a’r
Parchedigion Carwyn Arthur, Peter Davies a Kim Kerchal, y pedwar yn
gweithio mewn pedair ardal wahanol iawn.
Roedd gan Banel Monitro Gwaith y Swyddfa ddau fater tra phwysig
dan sylw; diogelu data a sefydlu’r broses o sicrhau gwasanaeth
cyfreithiol i’r Cyfundeb yn wyneb ymddeoliad Cliff Williams ar ôl
blynyddoedd o wasanaeth amhrisiadwy. Rydym oll, drwy’r Cyfundeb yn
gyfan, yn ddarostyngedig i’r gyfraith mewn materion data. Ni ellir
pwysleisio yn ormodol ei bod yn rheidrwydd arnom ar bob lefel i gael
cydsyniad pob unigolyn y bwriedir cofnodi ei enw a manylion eraill
amdano mewn Adroddiad Eglwys, Blwyddlyfr Henaduriaeth, Blwyddiadur
Cyfundebol ac ati. Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolwyr, rhoed
ystyriaeth i lunio cyfansoddiad yn wyneb gofynion y Comisiwn
Elusennau a fydd yn sicrhau un cyfansoddiad effeithiol i holl
lefelau’r Cyfundeb. Gallasai anghysonderau greu trafferthion mawr, a
chwbl ddianghenraid. Y gobaith yw llunio copi drafft erbyn y Gwanwyn
i’w drafod gan Henaduriaeth a Sasiwn cyn ei gyflwyno i’r Gymanfa.
Trwy e-bost a llythyr, bûm mewn cyswllt â’r Eglwys Bresbyteraidd
ym Mizoram i longyfarch Coleg Diwinyddol Aizawl ar ddathlu ei
Ganmlwyddiant, a chyfarch yr Eglwys Bresbyteraidd yn Korea, Taiwan
a’r U.D.A. Anfonwyd neges i longyfarch Carys Humphreys ar dderbyn
anrhydedd arbennig iawn gan Lywodraeth Taiwan yn cydnabod 20 mlynedd
o wasanaeth i’r Eglwys Bresbyteraidd yno. Gan i mi fethu â mynd i
gyfarfod ymadawol Jane Nyirongo ar 22 o Awst, anfonais air i ddiolch
iddi am ei gwasanaeth i’r gymuned ac am ddimensiwn Affricanaidd ei
chyfraniad gan ddymuno adferiad iechyd llawn a llwyr iddi yn ogystal
â dymuno’n dda iddi i’r dyfodol Anfonais lythyrau o gydymdeimlad a
chofion at weinidogion neu eu teuluoedd oherwydd profedigaeth neu
waeledd, ac anfonais lythyrau at y gweinidogion hynny sydd wedi
ymddeol neu yn bwriadu ymddeol yn ystod blwyddyn fy llywyddiaeth, i
ddiolch iddynt am eu gwasanaeth ac i ddymuno ymddeoliad hir a hapus
iddynt.
Mae tudalennau gwyn dyddiadur 2008 yn duo’n gyflym. Felly,
gwyliwch y gofod hwn.
|