|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Dathlu pen blwydd yn Singapore
Ddiwedd mis Tachwedd y llynedd cynhaliwyd ymgynghoriad yn
Singapore ar achlysur dathlu pen-blwydd y Cyngor Cenhadu Byd-eang
(CWM) yn 30 oed. Fel rhan annatod o’r dathlu aethpwyd ati i ystyried
rhawd a datblygiad CWM dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf a’r
weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
I baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad lluniodd Ysgrifennydd
Cyffredinol CWM, y Parchg Ddr Des van der Water, adroddiad yn
esbonio’r weledigaeth wreiddiol (Work in progress or mission
accomplished?), gan geisio canfod i ba raddau y llwyddwyd i’w
gwireddu a beth oedd oblygiadau bod yn driw i’r weledigaeth honno
i’r dyfodol.
Tarddodd y weledigaeth o’r sylweddoliad ganol y saithdegau nad
priodol nac ymarferol bellach oedd i wledydd Gogledd America a
Gorllewin Ewrop anfon cenhadon i efengylu’r byd ‘paganaidd’ yn yr un
modd ag a wnaed gynt. Roedd eglwysi ifanc y byd, sef ffrwyth y
genhadaeth dros y ddwy ganrif flaenorol, wedi dod i’w hoed ac eisiau
i’w priod lais gael ei glywed. Y canlyniad oedd pwyslais cenhadol
newydd ar bartneriaeth, cydweithio, parch eglwysi at ei gilydd,
cydraddoldeb, rhannu pobl ac adnoddau a’r sylweddoliad fod y byd oll
yn faes cenhadol. Un ffordd y mynegwyd y weledigaeth newydd hon oedd
drwy ddelwedd y bwrdd crwn lle’r eistedd pawb cyfuwch â’i gilydd.
Pwysleisiwyd hefyd natur holistaidd cenhadaeth a daliwyd gafael ar
yr egwyddor ecwmenaidd a fynnai nad oedd gan hunan-dyb a thrahauster
enwadol le o gwbl mewn cenhadaeth.
Yn ei adroddiad dywed Des van der Water i eglwysi CWM lwyddo i
wireddu’r weledigaeth i raddau helaeth iawn dros y deg mlynedd ar
hugain diwethaf. Nid oedd oblygiadau gwneud hynny’n eglur i bawb ar
y dechrau, meddai, ac yr oedd yn anochel fod y fenter yn ymdebygu
rywfaint i brynu cath mewn cwd! Ond yn ôl yr Athro Stephen De Gruchy
o Dde Affrica, fynychodd y gynhadledd yn Singapore fel ymgynghorydd
diwinyddol, bu’r newidiadau a welwyd o fewn CWM o ran pwy sy’n
gwneud penderfyniadau, cefndir y cenhadon, y gwaith a gyflawnir a’r
berthynas rhwng eglwysi hemisffer y de â’i gilydd, yn brawf pendant
fod y mudiad wedi tyfu a datblygu.
Ond y cwestiwn mawr yn Singapore oedd a yw’r weledigaeth oedd mor
newydd a gwefreiddiol yn 1977, yn addas ar gyfer y dyfodol? Er
gwaethaf y newidiadau enfawr welwyd mewn byd ac eglwys, a’r
sylweddoliad fod yn rhaid i’r weledigaeth gael ei mynegi mewn ffyrdd
newydd ac addas ar gyfer y byd cyfoes, dal gafael arni wnaeth y
cynadleddwyr gan ail bwysleisio’r cymhellion a’r agwedd meddwl
roddodd fod i CWM. Mynegwyd hynny yn y datganiad sy’n dilyn, ac yr
wyf yn ddiolchgar i’r Parchg Ddr Geraint Tudur, am ei gyfieithu.
Y mae’r datganiad yn mynegi sawl pwyslais ddaeth yn amlwg iawn
yn Singapore ac un o’r amlycaf ohonynt leisiwyd yn groyw gan
gynrychiolwyr o Affrica, oedd yr angen i’r Eglwys weithio o blaid
cyfiawnder economaidd a chymdeithasol. Heb geisio gweithredu
egwyddorion y Ffydd yn y cyd-destun hwnnw, meddent, anghyflawn ac
aneffeithiol fydd ein cenhadaeth.
Dr.
Elwyn Richards
Partneriaid Mewn Cenhadaeth:
Yr
Ymdrech a’r Addewid Ymgynghoriad Cenhadol
30ain Penblwydd CWM, Singapore, Tachwedd 20-25, 2007
Daeth Ymgynghoriad Cenhadol degfed-ar-hugain pen-blwydd CWM a 60
o gynrychiolwyr ynghyd o’r eglwysi sy’n perthyn i CWM ac o blith ei
bartneriaid eciwmenaidd, a hynny i ddathlu ac i fyfyrio ar yr
ymdrech a’r addewid sy’n gysylltiedig â gwaith CWM. Daethom at ein
gilydd yn Singapore ar 20-25 Tachwedd 2007 fel gwesteion Eglwys
Bresbyteraidd Singapore.
CWM yw olynydd Cymdeithas Genhadol Llundain, Cymdeithas Genhadol
y Gymanwlad a Phwyllgor Cenhadaeth Dramor y Presbyteriaid.
Gan adeiladu ar waith cenhadol arloesol y gorffennol, sefydlwyd
CWM yn 1977 fel ffordd newydd o feddwl a gweithredu mewn cenhadaeth.
Mewn ymateb i’r her o gyfnod newydd mewn cenhadaeth fyd-eang, ac
mewn ufudd-dod i gymhellion yr Ysbryd Glân, sefydlwyd y bartneriaeth
newydd hon mewn cenhadaeth gyda phwyslais ar gyd-dynnu, cydraddoldeb
a rhannu.
Wrth galon hunaniaeth CWM mae perthynas gyfamodol y mae’r holl
bartneriaid yn ymroi o’i mewn i rannu eu hadnoddau cenhadol boed yn
ddynol, yn ariannol neu yn ddeallusol.
Yr ydym yn dathlu’r bartneriaeth ddeg-ar-hugain oed hon sy’n cael
ei chynnal trwy ein ffydd gyffredin yn Iesu Grist gan geisio
gwireddu’r weledigaeth o symudiad cenhadol ‘o bobman i bobman’. Yr
ydym wedi rhannu straeon,
-
am gynnydd yr ymdeimlad o
bartneriaeth mewn cenhadaeth
-
am ysgogi datblygiad mewn
arweinyddiaeth ymhlith lleygwyr a gweinidogion, hen ac ifanc,
gwragedd a dynion
-
am ledu a dwysáu ein cydweithrediad
eciwmenaidd
-
am sicrhau ymwneud cynyddol ag
amrywiol ddiwylliannau, ieithoedd a chyd-destunau
-
am hyrwyddo dealltwriaeth holistig o
weithgarwch cenhadol
-
am gyd-dynnu â phobl o argyhoeddiadau
crefyddol a dirnadaethau byd-eang gwahanol
-
am harneisio doniau, sgiliau a
phrofiad pobl
-
am wneud y gorau o’r adnoddau ariannol
yr ydym yn eu meddu ar y cyd
Yr ydym yn dathlu’r gorffennol gan gydnabod ein bod yn parhau ar
bererindod ffydd a datblygiad yn y dasg o genhadu. Gan roi sylw i
straeon a phrofiadau’r rhai hynny o bobl Dduw sy’n ymwneud â
chenhadaeth, yr ydym yn ymdrechu i ganfod y ffordd ymlaen gan barhau
i dynnu ar addewidion gras wrth i ni geisio byw ein gweledigaeth o
bartneriaeth a gwireddu ein hamcanion.
Yr ydym yn cydnabod ein bod yn bartneriaid mewn cenhadaeth
fyd-eang sy’n cynnwys elfennau o barhad ac ymwrthod â sefyllfa’r byd
ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’n ofynnol i ni felly ddirnad ac
ail-ddirnad ‘arwyddion yr amserau’.
Yr ydym yn byw mewn byd sy’n cael ei reoli gan ddyheadau
ymerodraethol a chan broses globaleiddio dilyffethair lle ceir
cyfoeth aruthrol a thlodi enbyd, byd sy’n wynebu effeithiau
anghyfiawnder, newid hinsawdd, HIV ac AIDS, tyndra crefyddol ac
ethnig; byd y mae lleisiau pobl yn cael eu tawelu ynddo trwy drais,
trwy rym a thrwy orfodaeth, a byd y mae’r hyder yng ngallu’r
sefydliadau byd-eang i sicrhau diogelwch, cyd-ddealltwriaeth a
heddwch yn cilio ynddo.
Yn wyneb y sialensiau hyn, ac mewn byd lle mae pechod a drygioni
yn weithredol, cydnabyddwn yr angen i barhau i gyflwyno tystiolaeth
broffwydol gan gynnig presenoldeb bugeiliol a gweinidogaeth
ymarferol offeiriadol wrth barhau gyda’n gweithgarwch cenhadol.
Fel partneriaeth a chymuned o eglwysi mewn cenhadaeth, yr ydym
felly’n ymroi o’r newydd,
-
i addoli’r Duw Trindodaidd sy’n
cynrychioli ac yn ymgorffori’r gymdeithas yr ydym yn tystio
iddi
-
i barhau yn ein galwedigaeth genhadol
i fod yn bartneriaid yng nghenhadaeth Duw mewn ymateb i’w ras
achubol fel y’i datgelwyd i ni yn Iesu Grist
-
i ddarllen y Beibl mewn ffyrdd newydd
er mwyn canfod patrymau newydd o ymwneud â chenhadaeth
-
i fod yn agored i waith trawsffurfiol
yr Ysbryd Glân ym mywydau pawb sy’n credu
-
i alw pobl i ffydd a chyflawnder bywyd
yn Iesu Grist
-
i weithio a gweddïo dros adferiad a
chymod, cyfiawnder a heddwch
-
i gryfhau ein hundod er ein
hamrywiaeth, gan hyrwyddo cyd-dynnu, cydraddoldeb, a pharch, a
rhannu grym mewn tegwch
-
i roi blaenoriaeth i’r cyd-destun
lleol wrth ystyried a chyflawni cenhadaeth
-
i ddwysau ein cymdeithas, ein
partneriaeth a’n hymwneud â’r eglwys fyd-eang a’r gymuned
eciwmenaidd
-
i ddysgu trwy wrando ar leisiau heblaw
ein rhai ni ein hunain
-
i ymdrechu fwyfwy er mwyn galluogi
gwragedd, ieuenctid a phlant
-
i barhau i rannu adnoddau dynol,
ysbrydol, materol ac ariannol
-
i gynnal y dystiolaeth broffwydol a’n
cadernid bugeiliol yn wyneb systemau a strwythurau gormesol
-
i ysgwyddo ychwaneg o gyfrifoldeb yn
ein gofal dros y cread
Ar achlysur y dathliad hwn, yr ydym felly yn hyderus yn datgan
ein hymroddiad gyda’n gilydd o fewn CWM i’r dasg amlochrog o genhadu
mewn byd sydd mewn angen cyson am ras, cariad, cyfiawnder a heddwch
Duw.
Fel partneriaid â Duw yr ydym yn parhau’r daith genhadol gyda
diolchgarwch, gostyngeiddrwydd a gobaith.
|