|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Angylion Clapham Junction
Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig o garolau a llithiau yn Eglwys
Clapham Junction ar fore Sul, 16 Rhagfyr 2007, ac fel
darluniad i’r darlleniadau, bu i rai o aelodau ifanc a
phlant yr Eglwys yn cyflwyno tablos o storiau’r flyl.
Trefnwyd y gwasanaeth gan Ann a Trevor Jennett, ac roedd
y gerddoriaeth o dan ofal Huw Edwards. Ymhlith y
gynulleidfa yr oedd Jack Davies, sydd nawr yn 101 mlwydd
oed. Yn ôl y rhaglen, yr oedd Jack i ganu “Draw yn Ninas
Dafydd”, ond yn anffodus roedd annwyd wedi ymharu ar ei
lais. Tybed ai Jack yw’r blaenor hynaf yn ein cyfundeb
erbyn hyn?
Gwisgwyd rhai o’r merched ieuangaf fel angylion, ac yr oedd hyn
yn bwrpasol iawn gan fod ffenestr fawr lliwgar, yn dangos llun merch
ifanc wrth yr organ ac wedi ei hamgylchynu gan angylion, yn gefndir
i’r gwasanaeth. Mae’r ffenestr yma o wydr lliw yn goffâd i Mair
Eluned Lloyd George (g. 1890), a fu farw 100 mlynedd yn ôl, ar
Tachwedd 29, 1907, a hi ond yn 17 mlwydd oed. Mair oedd merch hynaf
Margaret a David Lloyd George, ac yn ôl yr hanes, roedd hi’n ferch
dlws a thawel. Dangosodd allu cerddorol a meddyliol neilltuol, ond
yr hyn a oedd yn nodweddiadol oedd ei rhadlonrwydd.
Yn 1903 symudodd y teulu i fyw yn 3 Routh Road, Wandsworth, ac
yno, ar Tachwedd 25ain 1907, cymerwyd Mair yn wael gyda llid y
pendics. Pedwar diwrnod yn hwyrach bu farw o beritonitis. Claddwyd
Mair yng Nghricieth. Marwolaeth Mair yn ôl haneswyr, oedd yr ergyd
drymaf bersonol a ddioddefodd Lloyd George yn ei fywyd, ac yn wir yr
oedd am amser ar ôl ei marwolaeth yn ddigysur. Gwrthododd
ddychwelyd i fyw yn Routh Road a bu rhaid i’r teulu symud i Cheyne
Place, Chelsea.
Cafodd Mair (a’i brawd Gwilym) eu bedyddio a’u derbyn yn aelodau
yn Eglwys Clapham Junction, lle’r oedd ei mam yn aelod (codwyd
Richard ac Olwen yn Fedyddwyr, fel eu tad). Yn naturiol felly, yn
Eglwys Clapham y dewisodd ei rhieni osod ffenestr goffa i’w merch
cyntaf-anedig. Cynlluniwyd y ffenestr gan yr arlunydd Thomas Figgis
Curtis (1854-1924), a chrewyd hi gan ei gwmni T F Curtis, Ward and
Hughes o Frith Street, Soho. Mae nifer o ffenestri Curtis yn eglwysi
cadeiriol Caerloyw, Caerlwytgoed, a Lincoln, ond yn anffodus,
dinistrwyd llawer o’i waith yn ystod y bomio yn 1939-1945.
Canolbwynt y ffenestr yw’r llun o Mair yn chwarae organ bib. Yn
ei hymyl mae dau angel, un yn canu’r delyn a’r llall gyda’r Beibl yn
ei gol. Uwchben Mair ceir 7 o angylion eraill gyda rhai yn canu i
gyfeiliant y lleill yn chwarae offerynnau hynafol. Mae yna hefyd
baneli gyda llun o gastell Cricieth, baner Tywysogion Gwynedd,
telyn, a’r ddraig goch. Ceir y geiriau “Cariad”, “Addfwynder”, a
“Moliant” ar baneli eraill, ac mae’r adnod “Gwyn eu byd y rhai pur o
galon” ar banel gerllaw. Ar waelod y ffenestr ceir y geiriau
canlynol:
Mair Eluned Lloyd George.
Yr hon a hunodd Tachwedd 29 1907 yn 17eg oed.
Ffrwyth gras a hiraeth rhiant llaith eu gruddiau,
Er cof am un oludog o rhinweddau,
Addolai yma drwy ei gwanwyn iraidd,
Yn symledd gwresog ffydd a chariad peraidd
Yr Arglwydd yn mhrydferthwch ei sancteiddrwydd
Gan beraroglir byd mewn gostyngeiddrwydd.
Y mae’r ffenestr wedi ei gwneud o wydr gyda lliwiau egniol, ac
mae’r holl effaith yn nwyfus ac atyniadol; coffâd pwrpasol i ferch
mor ddeniadol ei phersonoliaeth.
Dadorchuddiwyd y ffenestr ar Fehefin 27, 1909, a gwasanaethwyd ar
yr achlysur gan y Parchedig John Williams, Brynsiencyn a’r
Parchedigion Elfed Lewis a Herbert Morgan.
Mae’n dda fod y genhedlaeth bresennol o “angylion” Clapham yn dal
i gael y cyfle i werthfawrogi y ffenestr goffa hardd, hanesyddol ac
unigryw yma yn eu man addoli
Hywel Thomas
 |
|
Angylion Clapham Junction. O’r chwith: Jessica Howells, Rebecca
Howells, Katie Snell, Rebecca Edwards, Hannah Edwards. |
 |
|
Ffenestr er cof am Mair Eluned Lloyd George (1890-1907) |
Yn ôl i dudalen Y Goleuad
|