www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y GoleuadY Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Derbyn cyflawn aelodau yng Nghapel Rhydfendigaid

 

Mewn oedfa Gymun fore Dydd Sul y 4ydd o Dachwedd, derbyniwyd wyth o bobl ifanc i gyflawn aelodaeth yng eglwys Rhyd­fendigaid, Pontrhydfendigaid, Ceredigion. Hyfforddwyd hwy gan y Parchedig Lewis Wyn Daniel. Bu mwynhad mawr yn y cyfarfodydd paratoi, â ddangoswyd yn ymateb y dair merch a’r pum bachgen yn y gwasanaeth. Anrhegwyd yr wyth ohonynt â chopïau unigol o’r fersiwn diwygiedig o’r Beibl Cymraeg Newydd, gyda’i henwau a dyddiad y dathliad. Edrychir ymlaen at gynorthwy y tô ifanc i gynnal yr Achos yn Rhydfendigaid.

 

 

Yn y llun gwelir – rhes gefn: Tomos Lewis, Arlene James, Guto Morgan, Meleri Jones, Gwion Tydu Hughes, Tanwen Davies, James Evans a Joshua Davies. Rhes flaen: Neli Jones ac Islwyn Morgan (blaenoriaid), Parch Lewis Wyn Daniel, Tom Lloyd Rees a Jean Williams (blaenoriaid).

Yn absennol o’r llun oherwydd anhwylder, mae Mair B Jones (blaenor).

Yn ôl i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Lôn Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffôn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 05/02/2008