|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Dechrau Blwyddyn – Addasu i Addoli
Wrth inni gamu i mewn i flwyddyn newydd, mi fyddwn yn naturiol yn
dueddol o edrych yn ôl ac i edrych ymlaen. Wrth i
gynulleidfa Llannefydd wneud hynny eleni, gallwn ddatgan
ein llawenydd oherwydd i’r Arglwydd ein bendithio yn y
gorffennol, yn arbennig drwy ddiogelu cartref i’r gwaith
ar hyd y blynyddoedd, a lle i gyhoeddi’r Efengyl.
Bellach, rydym wedi llwyddo i addasu’r adeilad i
gyfarfod â gofynion gweinidogaethu ar ddechrau’r
mileniwm newydd. Er yr ymlyniad naturiol at yr hen, mae
Duw yn ein galw i wynebu sefyllfaoedd, amgylchiadau,
gofynion a disgwyliadau newydd.
Gyda’r galw’n lleol am fwy o le, a lle mwy hylaw, aed ati i
gynllunio, pwyllgora ac awdurdodi’r gwaith i ail-lunio tu mewn y
capel, ac i adeiladu estyniad ar gyfer cegin/ystafell gymdeithasol a
thoiledau. Gyda chymorth cyllid o bwyllgor Strategaeth yr
Henaduriaeth, cronfa WREN a haelioni’r aelodau, gwariwyd dros £60
mil i ddarparu adeilad sy’n addas i weinidogaethu i’r gynulleidfa ac
i’r gymuned yn y pentref a’r ardal. Gyda dros hanner cant yn
mynychu’r Ysgol Sul, deg ar hugain yn y cyfarfod plant wythnosol a
chynulleidfa dda ar y Sul, bellach medrwn amrywio’r weinidogaeth
mewn adeilad sy’n cynnig ei hun i ddefnydd amrywiol. Dewiswyd y
teitl ‘Addasu i Addoli’ i adlewyrchu ein hawydd a’n
hargyhoeddiad i geisio ym mhob ffordd bosibl i fod yn ffyddlon a
pherthnasol wrth gyflwyno’r Efengyl yn ein cenhedlaeth.
Ar ddiwrnod yr agoriad swyddogol, croesawyd llu o gyn-aelodau a
chyfeillion i ymuno gyda’r gynulleidfa bresennol i lenwi’r capel, i
wrando ar gyfraniadau gan y plant, yr ieuenctid, y teuluoedd ifanc,
a’r rhai hynaf, i ddathlu daioni Duw, ac i ddeisyf ei fendith.
Sylweddolwn os nad yw’r Arglwydd yn adeiladu, mai ofer ein llafur.
Cafwyd gair ardderchog i’r plant yn y pnawn gan Nia Williams, ac
yn y nos arweiniwyd ni at y Gair gan ei gfir, y Parchedig W Bryn
Williams. Gan gyfeirio at hanes Nehemeia cawsom ein herio’n
Feiblaidd i sicrhau ein bod yn gweithio, yn disgwyl, ac yn
breuddwydio gyda’n llygaid ar yr Arglwydd, yr Un sy’n gwylio’r
ddinas, ac yn adeiladu Ei Eglwys.
Mae’r blaenoriaid yn ddyledus i bawb fu’n llafurio, i bawb fu’n
cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, ac yn awr yn dymuno gweld yr Arglwydd
yn ein harwain i ddyfodol hyderus gyda’n llygaid ar Iesu. Mae 2008
eisoes wedi cyrraedd. Hyderwn y gwelwn fendithion yr Arglwydd er
mwyn Ei enw ei hun yn y gynulleidfa, yn y gymuned ac yn ein gwlad.
Mair B. Williams (Ysg. y capel).
|