www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y GoleuadY Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Prifio yn Port

Adroddiad Katie Kirkham a Ffion Roberts, disgyblion blwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, wedi eu hymweliad â Chynhadledd Prifio yn Eglwys Sant Ioan, Porthmadog

Yn ddiweddar fe aeth nifer o ddosbarth Addysg Grefyddol y chweched i ymweld ag un o’r ysgolheigion mwyaf adnabyddus o fewn Iddewiaeth sef Dr Dan Cohn-Sherbok, yn eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog.

Fel rhan o’n cwrs Lefel A mewn Addysg Grefyddol rydym yn astudio Iddewiaeth ac un o’r agweddau rydym yn ei astudio yw Diwinyddiaeth yr Holocost. Yn gyfleus mae Dr Dan Cohn-Sherbok yn arbenigwr ar y pwnc ac roedd hi o fudd ac o ddiddordeb mawr i ni glywed o’n trafod y pwnc yn ddwys. Yn amlwg roedd y dosbarth wedi clywed am ac wedi darllen rhai o’i lyfrau ynghynt ac felly roedd hi’n fraint mawr cael cyfarfod y dyn ei hun.

Fe ddechreuodd Cohn-Sherbok gan gyfeirio at ei fywyd ei hun fel Iddew; dysgom ei fod wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion yn yr UDA ac yna wedi ymgartrefu yn Llanbedr Pont Steffan ble mae hefyd yn darlithio Iddewiaeth yn y Brifysgol. Mae’i ddegau o lyfrau wedi’u cyfieithu i nifer o ieithoedd sy’n cynnwys Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a hyd yn oed Groeg. Dysgom hefyd ei fod wedi graddio mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caer­grawnt, yn amlwg y mae’n ddyn hynod ddeallus, hyd yn oed y tu allan i furiau ei grefydd. Yr oedd ei ddeallusrwydd yn cael ei adlewyrchu yn ei ffordd chwilfrydig o ddarlithio ac roedd pawb o’r farn ei fod yn berson hynod o ddiddorol.

Cyfeiriodd yr athro at y wahanol ffyrdd y mae’r Iddewon dros y blynyddoedd wedi ymateb i drychineb yr Holocost. O berspectif crefyddau eraill efallai fod y pwnc yma’n un eithaf arwynebol, fod popeth yn ddu neu gwyn ond fe esboniodd yr athro nad mater syml oedd ymateb yr Iddewon i’r Holocost. Esboniodd fod crefydd rhai Iddewon wedi’i gryfhau o ganlyniad i’r Holocost, roeddynt yn edrych arnynt eu hunain fel goroeswyr, fod Duw wedi eu hachub nhw rhag marwolaeth ac felly roedd eu teimlad o bresenoldeb Duw wedi cryfhau oherwydd hyn. Cwestiynodd nifer o Iddewon – os yw Duw yn holl-alluog, holl-bwerus ag holl-wybodus yna pam wnaeth o adael i’w bobl etholedig ddioddef y fath erchyllterau? Esboniodd yr athro nifer iawn o wahanol o ymatebion wnaeth brofi’r ffaith mai nid pwnc hawdd i’w drafod neu i’w farnu yw Diwinyddiaeth yr Holocost yn enwedig ymhlith Iddewon. Cyfeiriodd at y ffaith bod rhai yn credu mai neges gan Dduw oedd yr Holocost, i’w hatgoffa nhw o’r Cyfamod a phwysigrwydd ei barhad a’r cysylltiad clos rhwng Duw a’i bobl. Dyma flas ar rhai o’r gwahanol ymatebion sydd gan y gymuned Iddewig ac ar ôl clywed mwy am y rhain daeth yn amlwg i ni fel dosbarth fod y pwnc yn un cymhleth iawn. Datganodd Dr Dan Cohn-Sherbok fod ffyrdd Duw yn anchwiliadwy, nad oes modd i ddynoliaeth ei ddeall a bod yn rhaid i’r cwestiwn o ddrygioni barhau i fod y dirgelwch eithaf o fewn diwinyddiaeth.

Yr oedd y ddarlith yn un hynod o fuddiol i ni fel dosbarth, ac mae’n rhywbeth y byddwn yn ei gadw mewn cof am weddill y cwrs lefel A. Nid yn unig i’n gwaith academaidd fydd y ddarlith yn fuddiol ond hefyd pan fyddwn yn ymweld â Gwlad Pwyl a’r Almaen ym mis Chwefror. Yn ystod ein hamser yno rydym yn ymweld ag Auschwitz a nifer o amgueddfeydd yn cynnwys yr Amgueddfa Iddewig ym Merlin.

Felly bydd ychydig o ddealltwriaeth o’r pwnc o fudd i ni, ac yn helpu i ni werth­fawrogi y daith llawer iawn mwy.

Helpodd y ddarlith hefyd i ni ddeall cymhlethdod y pwnc; nid oedd yr un ohonom ni yn ymwybodol bod cymaint o theoriau yn bodoli. Nid yn unig o fewn yr uned ar ddiwinyddiaeth yr Holocost y bydd y ddarlith yn ein helpu ni ond hefyd gyda’r gwaith ar hunaniaeth Iddewig sydd hefyd yn rhan o’r cwrs. Credwn fod ymwybyddiaeth o’r gwahanol theoriau yn help i ni wahan­iaethu rhwng gwahanol grwpiau o Iddewon a’u credoau ac yn helpu i ni gydymdeimlo ac i ddeall ymateb rhai Iddewon.

 

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Lôn Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffôn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 13/02/2008