|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Prinder? Pa Brinder?
Achos dirfawr lawenydd i mi – os dim ond am un ennyd hynod fer yn
ddiweddar – fu darllen y canlynol dan bennawd bras yn un o bapurau’r
Wasg Gymraeg. Brenin bach! Pa angen, wedi’r cwbl, meddyliais, oedd
’na i bryderu ynghylch cyflwr y weinidogaeth?
GORMOD O YMGEISWYR
Dyna’r teitl, ac wele, oddi tano, yn ysgrifenedig:
‘Yr
wythnos ddiweddaf cynhelid Sasiwn Chwarterol Methodistiaid
Calfinaidd De Cymru ym Mhenybont-ar-Ogwr … Daeth cenadwri o Gyfarfod
Misol Dwyrain Morgannwg yn amlygu pryder dwfn ynghylch y ffaith bod
njfer mawr o efrydwyr yn awr dan ddisgyblaeth i’w cymhwyso ar gyfyr
gweinidogaeth y Cyfundeb. Yr oeddynt hwy yno o’r farn bod yr amser
yn aeddfed i Gymdeithasfaoedd y De a’r Gogledd edrych i mewn i’r
mater yn ddifrifol i’r amcan o geisio gweled a deall a oes gormod o
wŷr ifanc yn cael eu derbyn i’r weinidogaeth, ac, os felly, i
ddyfeisio rhyw foddion i gadw rheolaeth fanylach ac effeithiolach
ary cyflenwad.’
Mewn
geiriau eraill, llai syber, yr oedd angen didoliad, neu, fel a
ddigwyddodd yn hanes geifr Eryri drueiniaid, roedd angen cull!
Er,
cystal prysuro i egluro debyg. Mae’n wir mai rai dyddiau’n ôl y
darllenais yr uchod eithr wrth ffowla ymhlith bob mathau o nialwch
sy’n dragwyddol gasglu trybola o lwch yn y daflod acw y bu hynny.
Cydio mewn cyfrol dra swmpus yn dwyn y teitl The Complete
Family Lawyer, o bob dim, wnes i. Nid ’mod i’n bwriadu mynd
i gyfraith yn erbyn yr un enaid byw cofier, a dyn a ŵyr o ble y
daethai hi acw yn y lle cyntaf. Roedd hi’n llwydni drosti ond wrth
ei hagor beth syrthiodd o’i phlygion, hwnnw wedi melynu a breuo, ond
darn o ddalen hen bapur ‘newydd’(!) Cymraeg – un o bapurau Môn
gellid tybio, yr Herald o bosib neu’n wir Y
Clorianydd o barchus, beraroglus goffadwriaeth. Rwy’n dweud
hynny am fod ar ochr arall iddo hen lun o Gyngor Sir Cyntaf yr Ynys
yn cynnwys oddeutu hanner cant a rhagor o batriarchiaid barfog,
blonegog, porthiannus odiaeth yr olwg, er mai’r cofnod am gyflwr
honedig, hynod iach yr weinidogaeth i lawr tua’r Sowth ’na a ddenodd
fy sylw pennaf i.
Does
yr un dyddiad ar gyfyl y darn ond gan fod cyfeiriad mewn cofnod
arall rywle at Neville Chamberlain, y Prif Weinidog, mae’n ddiogel
maentumio mai rywbryd rhwng 1937 a 1940 yw’r cyfnod dan sylw. Cyfnod
o lawnder mawr roedd hi’n amlwg. Dyddiau dedwydd dros ben.
Hoffais ’run pryd, mewn cornel arall o’r un ddalen farn huawdl un yn
dwyn yr enw Gamut a honnai fod yn feirniad cerdd y
Liverpool Daily Post am ansawdd y canu cynulleidfaol a
glywsai ychydig ddyddiau ynghynt ym ‘Moriah Chapel’,
Llangefni –
‘It
was full and balanced with great energy and attack’, tystia, ‘the
intonation was good in spite of a tendency to sharpness in the
sopranos; the basses were remarkably firm … sung with fluent
expression and much tremendous energy. All was very expressive’.
A
dyna ni’n gwybod yr un pryd beth oedd stad caniadaeth y cysegr tua’r
Llangefni ’na ddeng mlynedd a thrigain yn ôl. Rhaid i ddyn droi i
mewn i Moreia ryw fore Sul i weld a yw hi felly o hyd yno. Dim ond
gobeithio fod sopranos fy hen sir enedigol annwyl yn llai siarp a
gwichlyd nag a fuont! Er nad oes yr un dystiolaeth fod ’na unrhyw
fath o stampîd am y weinidogaeth ymhlith eglwysi Cyfarfod Misol
Dwyrain Morgannwg erbyn heddiw chwaith; ac nid ‘cyl’ yn sicr
fyddai’r angen y dwthwn hwn!
‘Cyl’ wir! Onid cri am drefn o warchodaeth gaeth ddylai hi fod
bellach canys aeth y rhywogaeth honno yn brinnach na’r un panda gyda
pheryg enbyd iddi ddiflannu’n gyfangwbl ac am byth oddi ar wyneb yr
hen ddaear ’ma. Does bosib nad oes yn rhywle rywun o galibr neu o
wehelyth David Attenborough a’i siort all ddod i’r adwy i ymgyrchu
er sicrhau ei pharhad!
William Owen (Borth-y-gest)
|