|
Crynodeb o rifyn
Ionawr
2006
Brad y Llyfrau Gleision, ond nid Cymru oedd yr unig wlad i orfod
dioddef sen ac agwedd sarhaus at ei hiaith. Yn yr un cyfnod yr oedd
y Llydaweg hithau yn iaith y diafol, yn cyfyngur werin bobol ac
yn eu rhwystro, meddid, rhag bod rhan yn y byd modern. Dylid cael
gwared arni trwy gyfrwng rgime colonial.
Olrhain hynt Auguste Brizeux, bardd o Lydaw a ysgrifennai mewn
Ffrangeg a wna Heather Williams mewn erthygl bwysig, Ar drywydd
Celtigrwydd, syn llawn adleisiau fel hyn o broblem awduron
Cymraeg syn ysgrifennu yn Saesneg, yn enwedig yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Oherwydd iddo ddilyn ffasiwn ei oes yn rhy slafaidd
caiff Brizeux ei anwybyddu erbyn hyn yn Ffrainc ai gondemnion
fradwr yn Llydaw. Ond maen bwysig fel un a greodd Lydawr
dychymyg ac yn ffigwr allweddol yn Celtomania Ffrainc yn ei ddydd.
Maen erthygl y talai i Gymry heddiw fyfyrio ynddi, a ninnaun
wrthin ailbwyso goblygiadau Celtigrwydd (os oes y fath beth).
Felly hefyd sylwadau Harri Pritchard Jones, Iaith a hunaniaeth,
hunaniaeth personau, cymunedau a chenhedloedd. Mewn erthygl
athronyddol ei naws mae HPJ yn archwilior berthynas rhyngof FI a TI
ac effaith iaith, a cholli iaith, ar yr ymwybyddiaeth o hunaniaeth.
Maer maes yn lletach lawer na Chymru maer ymwybyddiaeth o
bwysigrwydd iaith yn tyfu [yn y byd Saesneg; ond] cymaint yn fwy
pwysig ydy iaith a hunaniaeth mewn sefyllfa fel un Cymru, lle mae
safle fregus yr iaith yn dilyn digwyddiadau trawmatig syn cael eu
hadlewyrchu yn hanes bywyd y bobl eu hunain.
Mae yn y rhifyn hwn ddwy ysgrif goffa gynnes a theilwng i ddau
gymwynaswr mawr. Traetha Rhidian Griffiths ar Syr Rees Davies fel
hanesydd, ac yn arbennig fel hanesydd rhyngwladol ei fri, o Gymro
ymwybodol; ac y mae Gwyn Thomas yn tynnu portread geiriol oi
gyfaill Derwyn Jones, llyfrgellydd unigryw, bardd yr oedd ei
grefydd yn agos at ei galon, a mireinder ei gn yn gallu bod yn
hudol.
Ac yn l yr arfer mae yn y rhifyn hwn nifer go dda o adolygiadau.
Gwledd o ddarllen amrywiol, i lonni calon ac ysbarduno meddwl.
A YDYCH WEDI ADNEWYDDU EICH TANYSGRIFIAD?
A YDYCH AM DANYSGRIFIO OR NEWYDD?
Cysylltwch
Gwasg Pantycelyn, Ln
Ddewi, Caernarfon, Gwynedd.
|