|
Crynodeb o rifyn Ionawr 2007
Bu 2006 yn flwyddyn arall o golledion i ddiwylliant Cymru. Ddiwedd y
flwyddyn bu farwr artist Kyffin Williams ar athronydd Dewi
Z.Phillips a gweddus yw coffur ddau ohonynt yn Y Traethodydd.
Mae Paul Joyner or Llyfrgell Genedlaethol, sefydliad y bu
Kyffin Williams yn gyfaill hael a chefnogol ryfeddol iddo, yn
cyhoeddir anerchiad a roddodd ar achlysur agor arddangosfa olaf yr
artist, sef Kyffin yn y Wladfa, ysgrif syn dangos mor allweddol
fur ymweliad hwnnw iddo fel artist ac fel Cymro. Mae Walford Gealy
yn ysgrifennu am ei gyfaill Dewi Z., a hynnyn gynnes a
gwerthfawrogol; ac maen dilyn yr ysgrif goffa honno gyda
thrafodaeth werthfawr am hanes athronyddu yn y Gymraeg. Arolwg
feirniadol or bwnc sydd ganddo ac maen siarad yn ddiflewyn ar
dafod am ei ofid wrth weld y pwnc yn cael ei ddileu on
prifysgolion. O ble y daw ein hathronwyr Cymraeg yn y dyfodol? Ai
Dewi Phillips fydd yr olaf ohonynt? Yr oedd Dewi Phillips yn
athronydd rhyngwladol ei statws ai arwyddocd ac maen dda cael y
drafodaeth oleuedig hon ar ei waith.
Perthynas esboniadaeth ddiwinyddol a chyfieithu sydd gan Iwan Rhys
Jones mewn erthygl syn archwilior gwahaniaethau yn y modd y
troswyd y termau technegol gwaed ac iawn yn amrywiol
argraffiadaur Beibl Cymraeg Newydd yn 1975,1988 a 2004. Maen
olrhain yn ddeheuig seiliau ysgolheigaidd y trosiadau ar modd y
datblygodd y drafodaeth ar farn ymhlith ysgolheigion. Tasg
ddiddiwedd yw cyfieithu ac nid yw ein dealltwriaeth yn aros yn yr
unfan. Y mae pob cyfieithiad i raddau yn esboniad.
Wyddoch chi beth yw colwynwr, colwynwraig? Gair ydyw am fydwr
neu fydwraig ac y mae Rhidian Griffiths yn ei weld yn ddisgrifiad
da o swyddogaeth y cyhoeddwr syn cyfryngu rhwng y creu ar
cyflwyno. Aiff ati i olrhain hanes cyhoeddi cerddoriaeth yng
Nghymru, yn fwyaf arbennig yn y 19fed ganrif ar 20fed. Pwysleisia
ler cwmnau argraffu bach yn y gwaith ac maen edmygu eu hymrwymiad
ir gwaith a hefyd eu parodrwydd i fentro i faes a allai fod yn
ansicr. Ond tyfodd rhai ohonynt yn gyhoeddwyr cerddoriaeth
dylanwadol a phoblogaidd, yn enwedig yn oes y caneuon ar
anthemau. Mae hanes argraffu a chyhoeddi yma ond trwy adrodd y stori
honno mae Rhidian Griffiths yn dadlennu gryn dipyn ar hanes ein
diwylliant cerddorol.
Maer rhifyn hwn yn cynnwys adran adolygiadau helaeth, arwydd o
fywiogrwydd cyhoeddi yn y Gymraeg heddiw.
Mae rhifynau nesaf Y Traethodydd eisoes ar y gweill a phob
argoel y bydd yr arlwy amrywiol ei flas yn parhau. Gellir
tanysgrifio trwy gysylltu
Gwasg y Bwthyn,
Ln Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER.
|