www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau 4 Y Traethodydd 6

 


Crynodeb o rifyn
Gorffennaf 2008

Esblygiad ac Onestrwydd Meddwl 

Eleni, 2008, fydd 150 blwydd darganfod detholiad naturiol yn un o sylfeini damcaniaeth esblygiad. Eleni hefyd gwelir cyhoeddi llyfr yn dwyn y teitl The Darwin Conspiracy: Origins of a Scientific Crime. Cyflwynodd Charles Darwin ac Alfred Russel Wallace eu damcaniaethau ar y cyd yn yr un cyfarfod, er mai’r cyntaf sydd wedi cael y sylw amlycaf, a buont yn gohebu â’i gilydd ynghylch eu gwaith. Pell fo’r Traethodydd o ddatgan barn ar yr hyn a honnir yn y llyfr ond mae’n iawn cydnabod cyfraniad allweddol dau o naturiaethwyr mawr y 19fed ganrif i un o ddamcaniaethau creiddiol y cyfnod modern, yn enwedig pan fo gan un ohonynt gysylltiadau agos â Chymru a’r Gymraeg a allai fod wedi llywio’i waith.  Mae rhifyn cyfredol Y Traethodydd  yn cynnwys dwy erthygl ar ddau arloeswr damcaniaeth  a siglodd, ym marn llawer, sicrwydd ffydd nifer o gredinwyr Cristnogol, damcaniaeth sydd yn dal i gorddi’r dyfroedd crefyddol.

Y mae Owain Llyr Evans yn cyfrannu at y ddadl gyfoes ynghylch perthynas ffydd a gwyddoniaeth yn ei erthygl ‘Darwin a’r meddwl Cristnogol’. Ynddi mae’n olrhain her syniadau gwyddonol y 19fed ganrif i ffydd ymhell cyn i ddarwiniaeth gydio ond yn dangos beth mewn darwinaieth oedd, ac sydd, yn peri gwrthdaro rhwng ffydd a gwyddoniaeth, sef methu gwahaniaethu rhwng ffaith ac achos. Y mae’n ein gwahodd ninnau i ddeall y gwahaniaeth rhwng gwyddoniaeth a diwinyddiaeth, bob un yn ei phriod faes, fel ffordd allan o’r dryswch. Erthygl gyfoes bwysig y tâl inni fyfyrio ynddi.

Yr hyn a wna J. Elwyn Hughes yn ei erthygl yntau yw edrych ar waith Alfred Russel Wallace a’i gyfraniad arloesol i faes fioddaearyddiaeth. Un awgrym cyffrous a wna yw fod modd olrhain dwy elfen bwysicaf damcaniaethau Wallace – ffiniau daearyddol a goroesiad y cymhwysaf – yn ôl i ddylanwad bodolaeth a dosraniad yr iaith Gymraeg ar feddwl Wallace. Is-destun difyr yr erthygl yw i ba raddau y mae natur syniadaethau gwyddonol yn cael eu dylanwadu’n anymwybodol gan ffactorau neu amgylchiadau  yn ‘niwylliant’ cyffredinol y dydd. Rhywbeth yn wir i feddwl amdano; plant ein dyddiau ydym oll, hyd yn oed wyddonwyr!

Her syniadau cyfoes sy’n ysgogi erthygl Richard Edwards, ‘Eglwys y dyfodol: gobaith cyfuno ffydd a rheswm’ hefyd. Apęl sydd ganddo am arfer onestrwydd meddwl mewn oes pryd mae crefydd yn wynebu ‘tswnamis’ credo a thwf ffwndamentaliaeth ôl-fodern sy’n wrth-grefyddol a gwrth-wyddonol. ‘Tybed a yw’r Eglwys yn barod i wrando ar wahanol leisiau’r drafodaeth? ... Beth yw’r siawns o weld ailenedigaeth resymol, gymedrol oddefgar yn Eglwys y dyfodol? … Mae angen fwyfwy a chyson am onestrwydd meddwl wrth inni dystio i gariad diamod, dibendraw Iesu o Nasareth wrth fywhau a rhannu breintiau ein dynoliaeth.’ Mae Linda Price hithau’n codi cwestiwn i herio dulliau byw cyfoes yn ei herthygl ‘Byd barus’, wrth ddadlau fod nwy methan yn fyw o fygythiad i’n planed na hyd yn oed CO2 . Nwy a gynhyrchir i raddau helaeth gan ein hamaethu anifeiliaid ar gyfer ein bwyd yw hwn a geilw am newid sylfaenol yn ein lluniaeth ddynol cyn ei bod yn rhy hwyr.

Fel y mae wedi gwneud erioed, y mae’r Traethodydd yn dal i roi llwyfan lle y trafodir pynciau cyfoes sylfaenol a phwysig, a hynny mewn Cymraeg darllenadwy, eglur. Ond nid yw wedi anghofio gweddau eraill ei swyddogaeth fel y dengys trafodaeth Noel Gibbard â gohebiaeth T.Gwynn Jones (ac eraill) â J.Tywi Jones a cherddi hiraethus Morfydd E.Owen, ynghyd â nifer o adolygiadau swmpus.

Rhifyn llawn deunydd i ysgogi’r meddwl ac i agor trafodaeth am faterion y dydd a’r oes. Gellir archebu copi (Ł3.00) yn eich siop lyfrau leol neu gan y cyhoeddwyr, Gwasg Pantycelyn, Lon Ddewi, Caernarfon (gwasgybwthyn@btconnect.com).

Gwnewch yn siwr y bydd copi gennych.  

 

English

 
Y TRAETHODYDD

Golygydd

Brynley F. Roberts
Hengwrt
Ffordd Llanbadarn Aberystwyth Ceredigion
SY23 1HB

Ffôn

01970 623577.

E-bost

cliciwch yma
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 14/07/2008