A
ellir dysgu cenedligrwydd? Sut mae troi plant o’r naill genedl
yn blant cenedl arall? Y mae llun trawiadol clawr y rhifyn hwn
o’r Traethodydd yn awgrymu un ffordd.
Olrhain
llwyddiant llywodraeth yr Ariannin i droi plant o dras Gymreig
yn Archentwyr teyrngar trwy’r gyfundrefn addysg a wna
Walter Brook, yntau’n un o
do ifanc newydd y Wladfa, yn ei erthygl ar bolisiau addysg iaith
a hunaniaeth yn y Wladfa.
Ceisiodd llywodraeth yr Ariannin
niwtraleiddio yr iaith Gymraeg a Chymreictod ym Mhatagonia. Hi
oedd yn bennaf gyfrifol am y dirywiad yn y Gymraeg a’r ymdeimlad
Cymreig yn y Wladfa yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Roedd llywodraeth yr Ariannin yn gweld y Gymraeg fel gelyn i
undod yr Ariannin, felly defnyddwyd yr ysgolion er mwyn
‘archenteiddio’ plant yr ymfudwyr a’u gwneud yn Archentwyr i’r
carn. Yn ei erthygl mae Walter Brook yn egluro bod pob pwnc yn
yr ysgol gynradd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau’r ymdeimlad
cenedlaethol.
“Mae modd gwneud gosodiadau
gwladgarol wrth ddysgu pwnc fel Glendid hyd yn oed,” meddai
cyhoeddiad swyddogol y Cyngor Cenedlaethol Addysg ym 1908.
Yn Nyffryn Camwy, disodlwyd
athrawon Cymreig Trelew a Gaiman gan athrawon Archentaidd, er
mwyn sicrhau mai “Sbaeneg yn unig fyddai iaith y cyfathrebu
a’r diwylliant Archentaidd, yr unig un dilys.” Roedd yn
rhaid i bob ysgol gadw baner yr Ariannin mewn man gweladwy, gan
ei chodi cyn dechrau’r gwersi a’i thynnu i lawr ar ôl gorffen.
Gwaharddwyd unrhyw symbolau neu ddathliadau oedd yn groes i’r
“ysbryd cenedlaethol Archentaidd”.
Roedd deddfau eraill hefyd yn
gymorth i niwtraleiddio’r rhai a allai fynd yn groes i’r system.
Gorfodwyd dynion i wneud gwasanaeth milwrol er mwyn eu trwytho
yn symbolau’r wlad newydd, ac roedd dylanwad y fyddin a’r
llynges yn drwm ar ysgolion Patagonia. O fewn cenhedlaeth,
peidiodd llawer o Gymry ifanc â siarad Cymraeg ymysg ei gilydd a
chyda’u plant, hyd yn oed mewn llefydd fel y Capel a’r Ysgol
Sul. Fe wnaeth newidiadau sosio-economaidd hefyd helpu i sicrhau
bod yn polisi yn dwyn ffrwyth. Cafodd statws cymdeithasol y
Cymry ei ddinistrio gan newidiadau cymdeithasol fel cwymp Cwmni
Masnachol y Camwy ac argyfwng economaidd y 1930au.
“Cymhellodd agwedd gul y
Llywodraeth y Cymry i gefnu ar eu hiaith a’u diwylliant,”
meddai Walter Brook wrth gloi. Erbyn diwedd y 1930au, roedd y
polisïau addysg a’r datblygiadau sosio-economaidd wedi cael
effaith andwyol ar yr hunaniaeth Gymreig. Hyd at y 1980au roedd
y traddodiadau Cymraeg yn anathema i’r rhan fwyaf o Gymry
Patagonia, ac mae effeithiau y polisïau i’w teimlo hyd heddiw.
Mae hon yn
ddisgrifiad sy’n llawn isleisiau o sefyllfaoedd cyfoes tipyn
nes atom na De America.
Dychwelyd
at bwnc ymdriniaeth a gyflwynodd beth amser yn
ôl a wna
E.R.Lloyd-Jones yn ‘…clindarddach dail ar dân…’.
Ef, wrth gwrs, yw awdur Llais tros ddyfodol byd ac yn yr
ysgrif hon mae’n bwrw golwg tros waith rhai o’r beirdd a’r
llenorion sydd wedi ymateb i ryfeloedd yr ugeinfed ganrif. Nid
beirniadaeth lenyddol, neu o leiaf nid astudiaeth o gelfyddyd a
chrefft llenydda, sydd yma ond ymateb diwinydd a heddychwr o
argyhoeddiad, un sy’n credu yng ngrym heddychiaeth.
“Mae
heddychiaeth yn llef o rybudd a phrotest ac yn ffordd wahanol o
ddelio
â trais”,
meddai.
Y mae’r ddwy
erthygl arall yn fwy hanesyddol eu naws: Edward Davies, yn olau
ac yn eglur yn olrhain hynt y frwydr fawr yn erbyn y frech wen,
a hynny mewn ffordd fyw a diddorol er gwaethaf rhai o’r
disgrifiadau cignoeth. Lawn mor ddadlennol yw hanes ymateb rhai
meddygon i’r syniad o frechu yn erbyn yr afiechyd; pa faint o
gyd-ddigwyddiad, neu lwc, neu ragluniaeth sy’n llywio hanes
datblygiadau mawr yn y maes hwn, fel pob maes arall?
Bywiogrwydd brwd oes Fictoria yw testun
D. Ben Rees sy’n trafod gallu’r oes honno i
ymgymryd
â phrosiectau
mawrion a’i hawydd – yn eu torfeydd – i ddysgu a gwybod trwy
gyfrwng darlith a phregeth.
Oes sydd
wedi mynd heibio yn wir, fe ddywedir. Ond yr un ysfa i
ymddiwyllio ac ehangu gorwelion a arweiniodd at sefydlu’r
Traethodydd tros 150 o flynyddoedd yn
ôl,
ac yr ydym yma o
hyd!
Mae’n bryd
adnewyddu eich tanysgrifiad, ac yn gyfle ichi gyflwyno’r
cylchgrawn yn anrheg Nadolig i gyfaill.
Cysylltwch
â Gwasg y Bwthyn, Lôn
Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER, 01286 672018