
Pwy oedd
aelodau Cymreig cyntaf y Fabian Society?
Y mae’n hawdd
deall pam a sut yr apeliodd sosialaeth boblogaidd i gymunedau
gweithfaol yng Nghymru, ond cymdeithas dosbarth canol oedd y
Ffabiaid, y cylch bychan hwnnw o rai deallus, elitaidd braidd, a
geisiai trwy drafod, ymchwilio ac addysgu gyflwyno’r safbwynt
sosialaidd yn wyneb yr anghyfiawnder cymdeithasol a welent o’u
hamgylch.
Sosialydd
anghofiedig
Yn
ei erthygl ar R.J.Derfel y mae A.Meirion Roberts yn olrhain
hanes llenyddol a gwleidyddol y gðr
rhyfeddol hwn a droes o fyd capelaidd ei fagwraeth a mynegi ei
argyhoeddiadau cymdeithasol trwy gyfrwng ei sosialaeth gan symud
‘o’r pulpud i’r platfform’. Yn sosialydd greddfol, yr oedd yn un
o sylfaenwyr grðp
Ffabiaid Manceinion (lle’r oedd yn byw) a chyflwynodd eu
hargyhoeddiadau trwy gyfrwng ei liaws bamffledi Cymraeg a
Saesneg a’i farddoniaeth. Trafodwyd ei waith gan Gwenallt rai
blynyddoedd yn
ôl
a’i sosialaeth gan Islwyn ap Nicholas ond bron iawn yr unig sylw
a gaiff Derfel heddiw yw’r emynau sydd ganddo yn Caneuon
Ffydd. Mae’n haeddu trafodaeth newydd fel meddyliwr
sosialaidd o Gymro, yn enwedig ar adeg pan mae’r Blaid Lafur yn
archwilio ei threftadaeth Gymreig a Chymraeg. Y mae erthygl
Meirion Roberts yn arloesol ac yn gyfraniad o bwys wrth iddo
gyflwyno i’n sylw un o sylfaenwyr anghofiedig Cymru’r ugeinfed
ganrif.
Tswnamis
meddyliol eto
Parhau
trafodaeth y mae Stephen Nantlais Williams wrth ymateb i erthygl
Gareth Wyn Jones ar ‘Tswnamis Bach a Mawr’ (Traethodydd
Ionawr 2008). Yr oedd yr erthygl honno (sydd wedi ennyn cryn
sylw) yn gwrthgyferbynnu’r meddylfryd gwyddonol
â
ffwndamentaliaeth ac yn dod i’r casgliad nad yw cred mewn Duw
hollalluog yn gyson
â’r
wybodaeth a rydd ymchwil wyddonol am ein byd. Yr oedd yn apelio
am fframwaith moesol ac egwyddor cariad fel llyw moesol yn gwmni
i ddatblygiadau gwyddonol a thechnegol.
Yr
wrthddadl
Amhosibl ac
annheg fyddai ceisio crynhoi dadleuon manwl Stephen Williams ond
ei gasgliad terfynol yw:
mai pen draw rhesymeg
esblygiad naturiol heb Dduw trosgynnol yw anobaith, onibai
fod rhywun yn osgoi anobaith drwy ynysu ei hunan oddi wrth boen
y byd…Os nad oes y fath Dduw i’w gael, rhaid derbyn hynny a byw
gydag anobaith; efallai fod hynny’n well na chysuro ein hunain
gyda rhyw rith o grefydd. Nid yw ffydd Gristnogol yn datrys pob
penbleth meddyliol. Ond nid yw yn ein tywys i anobaith.
Bydd y drafodaeth bwysig hon yn parhau.
Siom
ysgolhaig
Y mae teitl
erthygl Mary Burdett-Jones yn dweud y cwbl! ‘Humphrey Foulkes:
uchelgais heb ei gyflawni’. Offeiriad ac ysgolhaig a ysbrydolwyd
gan y polymath rhyfeddol hwnnw Edward Lhwyd (a fu farw 300
mlynedd i eleni) oedd Foulkes, ond yn wahanol i lawer o
gydweithwyr eraill Lhwyd, ceisodd barhau gwaith ei feistr ac
ymchwilio i hanes Cymru a’i llenyddiaeth. Ysgrifennodd lawer ond
heb lwyddo i gyhoeddi fawr ddim – ac felly heb gyfle i
ddylanwadu ar hynt dysg yng Nghymru.
Gwyliwn na fydd pwysau ariannu a’r farchnad bondigrybwyll yn ein
harwain ninnau i’r un sefyllfa.
Cyhoeddi heb
nawdd
Y mae’n
arwyddocaol fod yn y rhifyn hwn ddau adolygiad ar lyfrau
sylweddol iawn sydd wedi’u cyhoeddi gan yr awduron eu hunain, yn
niffyg cael cyhoeddwr i fentro arnynt: Hanes yr Eisteddfod ym
Môn
(gan Meirion Llewelyn Williams), ac Awdlau’r Brifwyl
1950-1999 (gan Donald Evans), llyfrau gwerth eu cyhoeddi fel
y dengys y ddau adolygydd, sef Dafydd Glyn Jones a Bobi Jones Y
mae yn y rhifyn hwn nifer o adolygiadau eraill, rhan werthfawr o
swyddogaeth Y Traethodydd.
A ydych wedi cofio adnewyddu eich tanysgrifiad?
Cysylltwch
â Gwasg y Bwthyn, Lôn
Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER, 01286 672018