
Beth oedd y
pla mwyaf dychrynllyd i ymosod ar y ddynoliaeth erioed?
Pla Du’r 14fed
ganrif? Colera
1832? Aids?
Na: Ffliw 1918-1919 a
laddodd chwe gwaith mwy na’r Rhyfel Byd cyntaf, sef
rhwng 40 a 50 miliwn.
Arswydus, ond eto’n
ddifyr, yw ymdriniaeth Edward Davies, yr hanesydd meddygaeth,
â ffliw Sbaen, ‘Hynt a helynt boneddiges Sbaen yng ngogledd Cymru’. Lledai’r clefyd yn gyflym dros y gwledydd a
thros y moroedd, a neb yn deall beth oedd yr achos na’i
darddiad, dim ond fod yr effeithiau’n drychinebus o amlwg ac yn
syfrdanol o sydyn.
Ar siroedd
gogledd Cymru y canolbwyntir yma.
Yng Nghaergybi bu farw tad, ac ymhen ychydig oriau bu farw ei
blentyn saith mis oed; y fam yn marw y noson ganlynol a’i mab
chwe blwydd oed ymhen tridiau. Caewyd ysgolion, siopau,
gweithfeydd a ffatrïoedd;
cynhaliwyd cyrddau gweddi yn yr awyr agored a’r gynulleidfa mewn
rhai lleoedd yn gwisgo mygydau.
Hanes anghofiedig
efallai; ond wiw inni gymryd ‘y ffliw’ yn ysgafn fel y bu inni
sylweddoli yn ddiweddar.
O iechyd i iachawdwriaeth
Nid oes sôn am y ffliw yn erthygl
Robert Pope ond yr 1920au yw cyfnod ei
ymdriniaeth ef ag ‘Emynau newid cymdeithas’. Ei fan cychwyn yw fod Llyfr
Emynau’r Methodistiaid yn 1927 yn cynnwys adran ‘Emynau
cymdeithasol a chenedlaethol’, y casgliad cyntaf i neilltuo
adran felly.
Pam y mynnai’r golygyddion dynnu gwahaniaeth rhwng gweithio er
mwyn gwella cymdeithas ar y naill law ac ar y llaw arall, y pwyslais mwy
cyfarwydd ar fyw’r bywyd Cristnogol yn y byd. Ateb y cwestiwn
hwnnw yw bwrdwn yr erthygl sy’n dangos ethos pregethu a bywyd yr
eglwysi yn y cyfnod a’r dylanwadau a arweiniodd at fri’r
‘efengyl gymdeithasol’.
Nid y bennod olaf yn y drafodaeth
Wrth adolygu cyfrol olaf
y diweddar Dewi Z. Phillips, Ffiniau, y mae R.M.Jones yn
parhau trafodaeth a ddechreuodd rhyngddo a Dewi Z. yn 1975. Ni
cheir bellach ymateb gan Dewi Z. ond fe barha’r drafodaeth,
mae’n siŵr, yn sgil sylwadau megis ‘Gwendid alaethus athronwyr fel
Wittgenstein (a DZP) oedd eu hanwybodaeth am ieithyddiaeth
berthnasol i’r ugeinfed ganrif’. Y mae anwybyddu ‘ysgol
sylweddol mewn ieithyddiaeth’ (traddodiad Guillaume a
Saussure) ‘yn tanseilio’u gwaith ill dau yn archollus’.
Gallwn ddisgwyl rhagor o
ergydio athronyddol.
Tair erthygl swmpus y
tro hwn. Gyda hwy y mae adolygiadau, yn eu plith nifer gan y to
newydd o feirniaid llên a haneswyr.
Y tro nesaf down yn ôl at y llenorion: Kate Roberts, Ifor
Williams, a llenyddiaeth blant. Hefyd adolygiad pwysig ar gyfrol
Gwion Lewis ar ddeddf iaith arfaethedig,
Hawl i’r Gymraeg?.
Mynnwch gopi cyn Eisteddfod y Bala.
Cysylltwch
â Gwasg y Bwthyn, Lôn
Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER, 01286 672018