CYMRY RHYDDFRYDIG
– UN ARALL O’N MYTHAU?
Y mae clawr
trawiadol Traethodydd Gorffennaf yn awgrym go glir o beth
o’r cynnwys. Llun o un o ddarluniadau tywodfaen cysegredig
llwyth y Navajo ydyw, crefft a chelfyddyd draddodiadol llawer o
lwythi americanaidd brodorol. Y pennawd ar y clawr yw Celfyddyd
'dynion diniwed', geiriau sy’n dod o ddisgrifiad Cymro a
oedd yn un o ymsefydlwyr Prydeinig cynnar Columbia Brydeinig o’r
brodorion. Y mae dwy erthygl gyntaf y rhifyn hwn yn dangos
ymagweddau Cymry oes Victoria at bobl frodorol gogledd America,
yr ‘Indiaid’ bondigrybyll, sef "Albert Maywood"; brodorion
America, Thomas Levi a dechreuadau’r stori antur i blant
gan Siwan M. Rosser, a "Y dynion mwyaf diniwed ar wyneb y
greadigaeth": y Cymry a brodorion Columbia Brydeinig’ gan Gethin
Matthews.
Y mae
cyfieithiad Thomas Levi o stori antur gyfoes i ddarllenwyr
ifainc Trysorfa’r Plant yn llawn ei ragfarnau (a rhai ei
gyfnod) yn erbyn yr anwariaid a’u drygioni cynhenid ac yn ei
arwain i lunio digrifiadau echrydus o drais a lladd gan ei arwr,
Maywood. Brawddeg ysgytwol yw hon gan Siwan Rosser wrth fynnu
mai nod Levi oedd dysgu ei ddarllenwyr i adnabod y gwir:
Ac y
mae’r gwir, yn
ôl meddylfryd yr
oes, wedi ei ymgorffori, ar y naill law, yn y delfrydau a
gynrychiolir gan gymeriad Albert Maywood ei hun; yr arwr
ffyddlon, dewr, diffuant, gweithgar o argyhoeddiad Cristnogol,
ac, ar y llaw arall, yn yr ymateb i’r ‘Indiaid Cochion’ fel hil
‘anwar’ a ‘diog’.
Mae Gethin
Matthews yn symud o fyd ffuglen i lythyrau rhai o’r ymsefydlwyr
Cymraeg. Y mae’n werth cymharu’r dystiolaeth honno hefyd: y
Cymry’n garfan freintiedig yn y drefedigaeth, tra bod y
brodorion yn garfan ddifreintiedig; y wasg Gymraeg yn
gyffredinol yn adlewyrchu’r agweddau a oedd y gyffredin yn yr
oes ymerodrol, gan bortreadu’r brodorion fel pobl anwaraidd, neu
o leiaf rai diddeall a diniwed – heblaw am y cyfnod pan oedd
eisiau cefnogi’r syniad o ymfudo i’r drefedigaeth newydd.
Gyda’i gilydd mae’r ddwy erthygl yn gyfraniadau pwysig i’r
gwaith o ailbwyso meddylfryd cymysg Cymry oes Victoria rhag
rhamantu ein mythau cyfforddus cenedlaethol.
Mae’r ddwy
erthygl arall sydd yn y rhifyn hwn yn troedio tir mwy cyfarwydd:
John Ellis Jones yn olrhain hanes byd diflanedig astudiaethau
clasurol yng Nghymru ac yn y Gymraeg wrth adrodd hynt yr
ysgolion undydd a gynhelid ym Mangor o 1959 hyd 1986; a D. Ben
Rees yn adrodd hanes y cerddor Mansel Thomas (1909-1986), un
arall o gerddorion y Rhondda a ddaeth i’r brig er gwaethaf
amgylchiadau anodd ei deulu a’i fro.
Yn
ôl yr arfer, y
mae yn y rhifyn hwn nifer o adolygiadau gwerthfawr. Yn eu plith
y mae adolygiad gan gyfreithwraig sydd yn arbenigo ar y gyfaith
a’r Gymraeg, sef Catrin Fflur Huws sy’n cynnig sylwadau
proffesiynol gwerth dal arnynt ar gyfrol Gwion Lewis, Hawl
i’r Gymraeg?
Mynnwch gopi
neu danysgrifiad nawr: cysylltwch
â Gwasg y Bwthyn, Lôn
Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER, 01286 672018