www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau 4 Y Traethodydd 6

 


Crynodeb o rifyn
Hydref 2009

Llun go arswydus sydd ar glawr y rhifyn hwn o’r Traethodydd – byd yn wenfflam.

A’r pennawd yn codi cwestiwn amserol – ‘Newid hinsawdd; Apocalyps?’

Nid codi braw yw’r bwriad ond ystyried agweddau ar newid hinsawdd nad ydynt ar yr agenda cyhoeddus efallai ond sy’n berthnasol i gymunedau ffydd.

BAICH ANGHYFARTAL

Y mae Hefin Jones yn gosod allan y dystiolaeth wyddonol yn eglur ond mae’n mynd ymhellach na hynny ac yn pwyso arnom i ystyried y canlyniadau anuniogyrchol. Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar amaeth, iechyd, cyflenwadau dðr, strwythur cymdeithasol ac agweddau economaidd a gwleidyddol. Ond ni fydd yr effeithiau’n gyfartal ar bob cymuned. Diweddglo ei erthygl yw:

"Syrth baich anghymesur ar wledydd tlotaf y byd. Erys y cwestiynau moesol ar sut y mae sicrhau tegwch a chyfartaledd rhyngwladol yn sgil newid hinsawdd."

FFYDD A GOBAITH

Perygl galw’r ddwy erthygl nesaf yn rhai diwinyddol yw gwneud i ddarllenwyr ‘lleyg’ ddweud "Nid i mi! Dwy’ ddim yn ddiwinydd". Byddai hynny’n drueni mawr oherwydd yr hyn a wna Robert Pope a Catrin Haf Williams (yn annibynnol ar ei gilydd) yw edrych ar y ffeithiau gwyddonol a’r rhagolygon sydd o’n blaen yng ngoleuni ffydd a datguddiad Duw. Mae eu casgliadau’n ddigon tebyg i’w gilydd.

Eschatoleg, y pethau diwethaf, meddir.

"Ond nid yw pethau wedi cael eu rhagordeinio yn y fath fodd fel bod y dyfodol eisoes wedi ei bennu. Nid yw’n rhy hwyr i addasu, i geisio atal ein cyfraniad rghaf gwaethygu’r sefyllfa ac i baratoi i fyw mewn amgylchfyd a fydd yn wahanol i’r amgylchfyd presennol. Bydd angen arweiniad clir er mwy newid syniadaeth a gweithgarwch dynol, ac er mwyn rheoli hyn a’i ysbrydoli gan ddelweddau o obaith.

"Mae eschatoleg ddiwinyddol yn darparu’r delweddau angenrheidiol a’r dasg bellach yw hybu a meithrin y dychymyg i gymryd y delweddau hynny a’u defnyddio i helpu i lunio dyfodol newydd."

GWELEDIGAETH LAWN GOBAITH

Ceisio deffro dychymyg ei ddarllenwyr a wna awdur Llyfr y Datguddiad, yn ôl Catrin Haf Willams, a’u gorfodi i wynebu realiti enbyd eu byd. Mae’r llyfr yn siars i drigolion presennol y byd i gymryd o ddifrif y weledigaeth apocalyptaidd a chwilio am esboniad yn y gorffennol i’r argyfwng amgylcheddol a wynebwn. Gobeithiol yw gweledigaeth derfynol y llyfr ond nid darlun a berthyn i’r dyfodol yn unig ydyw. Mae Ioan yn argyhoeddedig fod olion o’r greadigaeth newydd eisoes wedi cyrraedd fel canlyniad i farw ac atgyfodiad Crist.

Mae’n siarsio darllenwyr, yn y ganrif gyntaf neu yn yr unfed ganrif ar hugain, i fyw fel petai’r nef newydd a’r ddaear newydd eisoes yn eu plith.

Ynghanol yr holl drafodaeth gyfredol ar newid hinsawdd, mae’n braf cael yn y Gymraeg awduron sy’n ystyried goblygiadau moesol y newid ac yn myfyrio ar beth a ddywed ein ffydd amdano.

Dyma rifyn olaf 2009. Diolch ichi i gyd am eich cefnogaeth ond cofiwch adnewyddu eich tanysgrifiad ar gyfer 2009

Chwilio am anrheg Nadolig wnaiff bara flwyddyn (a rhagor)?

Tanysgrifiad i Y Traethodydd amdani. Cysylltwch â Gwasg y Bwthyn, Lôn Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER, 01286 672018

 

English

 
Y TRAETHODYDD

Golygydd

Brynley F. Roberts
Hengwrt
Ffordd Llanbadarn Aberystwyth Ceredigion
SY23 1HB

Ffôn

01970 623577.

E-bost

cliciwch yma
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 26/10/2009