|
Y TRAETHODYDD
yw
cylchgrawn hynaf Cymru a’r Gymraeg ond mae’n dal yn heini a
bywiog, yn chwarterolyn sy’n ymddangos yn rheolaidd. Ei brif
amcan yw cynnig ymdriniaethau ar rychwant o bynciau sy’n
ymwneud â ‘diwylliant’, a deall y gair hwnnw mewn ystyr eang
i gynnwys gwead syniadol a deallusol cymdeithas. Y mae’r
cylchgrawn wedi llwyddo erioed i fod yn amserol ac yn gyfoes
mewn ystyr wironeddol yn ei drafodaethau ar lenyddiaeth,
crefydd a’r celfyddydau. Cyfraniad at drafod pynciau
amrywiol mewn ffordd ddeallus yw adolygiadau sylweddol a
safonol ac y mae’r Traethodydd erioed wedi rhoi lle amlwg i
adolygu llyfrau; a hyn oll mewn arddull sy’n apelio at
y ‘darllenydd cyffredin’. Ers dros gan mlynedd
y mae’r cylchgrawn wedi bod yn
cyfrannu’n gyffredinol eang at y bywyd deallusol Cymraeg. |
|
Un o nodweddion Y Traethodydd yw amrywiaeth ei gynnwys.
Yn ogystal â nifer o adolygiadau, mae pob rhifyn yn cynnwys
tair neu bedair o erthyglau ar amrywiaeth o bynciau. Mewn
rhifynnau diweddar cafodd rhai o
glasuron llên Cymru eu hail-ystyried o’r newydd a daeth
ein hanes hefyd dan y chwyddwydr. Y mae materion gwyddonol
yn cael eu hystyried, arbennig berthynas crefydd a
gwyddoniaeth, a hefyd faterion moesegol a diwinyddol cyfoes.
Y mae cyfle am ‘ddialog’ ar dudalennau’r cylchgrawn a
chroesewir ymateb i erthyglau.
Mae
rhychwant Y Traethodydd yn ymestyn o athroniaeth i
geltigrwydd, celf, cerddoriaeth, crefydd, cymdeithas,
diwinyddiaeth, llenyddiaeth: mewn gair – y diwylliant cyfan
cyfoes. Yn ystod 2007 cafwyd erthyglau ar ganmlwyddiant y
Llyfrgell Genedlaethol, Kyffin Williams, emynyddiaeth,
athroniaeth, llenyddiaeth, Arddangosfa Fawr 1851 a’r neges a
gyflwynai am Gymreictod, cyhoeddi cerddoriaeth, amodau
iechyd cyhoeddus, a llawer o feysydd eraill. Yn ystod 2008
bydd erthyglau yn ymdrin ag ymateb crefyddwyr i drychinebau
naturiol, â hanes gwyddoniaeth, dyfodol yr Eglwys, y
mabinogi a llu o bynciau eraill. Y mae pob rhifyn yn cynnig
gwledd o ddarllen.
Gellir prynu’r Traethodydd trwy eich siop lyfrau leol
neu fe ellir tanysgrifio’n flynyddol (£3.00 y rhifyn, £12 y
flwyddyn) trwy gysylltu â Gwasg y Bwthyn, Lôn Ddewi,
Caernarfon, LL55 1ER. |