|
Yswiriant
Yng Nghymanfa
Gyffredinol 2005 cytunwyd i drosglwyddo trefniadau yswiriant y
Cyfundeb oddi wrth Ymddiriedolaeth Yswiriant y Methodistiaid
Calfinaidd i gwmni yswiriant Congregational & General. Y mae Eglwys
Bresbyteraidd Cymru yn berchen ar eiddo sydd â gwerth ailadeiladu o
£300 miliwn a mwy. Fel rhan o Ymddiriedolaeth Elusennol
Congregational & General (C&G
Charitable Trust), y mae cwmni’r Congregational &
General Insurance plc. (C&GI) wedi hen ennill ei blwyf fel cwmni
sy’n darparu gwasanaethau yswiriant i eglwysi ers 1891. Am fwy o
wybodaeth am y cwmni ac am waith yr Ymddiriedolaeth cliciwch ar
www.congregational.co.uk
Y mae’r sicrwydd
yswiriant sydd bellach yn cael ei gynnig yn cyfarfod ag anghenion
addoldai heddiw ac yn caniatáu i’r Ymddiriedolwyr Gweithredol ofalu
am eu hadeiladau gyda hyder. Gellir cysylltu ag Adran Eglwysig C&GI
ar 01274 700700.
Yswiriant cartref a
chynnwys ar gyfer aelodau Eglwysi.
Y mae polisïau
yswiriant cartref a chynnwys “Shared-Values” hefyd ar gael gyda’r
C&GI. Lluniwyd y rhain ar gyfer y farchnad Gristnogol ehangach ac ar
gyfer pobl sydd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cymdeithasol a
chymunedol. Mae modd i aelodau dderbyn dyfynbris drwy ffonio 0800
012 1891 a chyflwyno’r cyfeirnod PCW000. Bydd y cwmni yn
rhoi cyfraniad i Eglwys Bresbyteraidd Cymru am bob polisi y bydd ein
haelodau yn ei brynu, felly gwnewch yn sieq \O(w,^)r
eich bod yn rhoi’r cyfeirnod wrth ffonio i ofyn am bris.
Manylion Cyswllt
Yswiriant Cartref a
Chynnwys – ‘Shared Values’
E-bost
info@shared-values.co.uk
Ffôn
0800 012 1892
Yswiriant ar gyfer Eglwysi
Congregational and General Insurance
plc
Currer House
Currer Street
Bradford
West Yorkshire
BD1 5BA
Ffôn
01274 700700
E-bost
c&gi@congregational.co.uk
Gwefan
www.congregational.co.uk
|