www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 326 Hydref 2007

 

Swyddog Cyfathrebu yn dechrau ar ei gwaith

Mae Mari Fflur, Swyddog Cyfathrebu newydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi dechrau ar ei gwaith, ac maen awyddus i glywed am newyddion a gweithgarwch y Cyfundeb.

Mae ei dylestwyddau yn cynnwys creu delwedd gyhoeddus gadarnhaol ir Eglwys drwy sefydlu cysylltiadau r cyfryngau a llunio a golygu cylchlythyr newydd chwarterol. Bydd yn ceisio diweddaru y ffordd maer Eglwys yn cysylltu i haelodau drwy greu bs data o gyfeiriadau e-bost a sefydlu bwletin electronig misol, a bydd hefyd yn gyfrifol am bresenoldeb y Cyfundeb mewn gwyliau fel Eisteddfod yr Urdd.

Wedi ei geni ai magu yn Nolgellau, aeth Mari i Ysgol y Gader ac i Goleg Meirion Dwyfor cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen er mwyn astudio ar gyfer gradd anrhydedd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE). Ond roedd Cymru fach yn galw, felly yn 2006 symudodd i Gaerdydd er mwyn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn dulliau ymchwil.

Ymysg pethau eraill, maen mwynhau darllen nofelau clasurol, coginio a rhedeg, ac maen awyddus i ail-afael mewn cyfeilio ond rhaid cynilo er mwyn prynu piano yn gyntaf!

Dywedodd Mari Dwin awyddus i ddysgu am y gweithgareddau ar gwaith dyngarol syn digwydd o fewn y Cyfundeb, nid yn unig er mwyn rhoi gwybod i aelodau eraill ond hefyd er mwyn dangos ir cyhoedd nad peth negyddol ydi Cristnogaeth.

Fe fuaswn i wrth fy modd yn clywed gan aelodau dwin gobeithio gallu rhoi sylw i bob hanes syn dod i law. Mi fyddai hefyd yn falch o gael cyfle i ymweld ag achosion neu i fod yn bresennol mewn gwahanol ddigwyddiadau.

Os oes gan eglwys ddigwyddiad cyffrous ar y gweill, fe fuaswn in falch o gael gwybod mewn da bryd, rhag ofn y cyfryngau yn awyddus i dynnu sylw ato.

Ychwanegodd y Parch. Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd,  Maer datblygiad yma yn un cyffrous o safbwynt yr Eglwys, ar gobaith yw codi proffeil yr Eglwys er mwyn dangos bod ganddi ddiddordeb gwirioneddol yng Nghymru ai phobl.
 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 26/10/2007