|
Gweithiwr datblygu rhyng-grefydd yng Nghasnewydd
Mae Eglwys Community House yng Nghasnewydd, mewn
cydweithrediad ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi penodi Gweithiwr
Datblygu Rhyng-Grefydd.
Bydd Mrs Marilyn Priday, sydd yn gyn-athrawes, yn
gweithio gydar gymuned Gristnogol a chrefyddau eraill er mwyn
datblygu cysylltiadau a fydd o gymorth ir ardal gyfan.
Dywedodd Mrs Priday: Maen anrhydedd ac yn fraint
cael bod yn rhan or gwaith newydd hwn. Maen gyfle gwych i holl
bobl Casnewydd ddod i wybod am gyfoeth crefyddol a diwylliannau
Casnewydd.
Ar 2 Ragfyr bu gwasanaeth i comisiynur weithwraig.
Ymunodd Jessica Morden AS a John Griffiths AC chynrychiolwyr
o gymunedau ffydd Casnewydd a chyfeillion eraill er mwyn dathlur
penodiad cyffrous hwn.
Roedd y gwasanaeth yn un Cristnogol ond cafodd crefyddau
eraill hefyd eu cynnwys, ac roedd cyfle i bawb gefnogi a
hybur fenter.

Y Parch Dafydd A. Jones,
Cyfarwyddwr y Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth, yn comisiynu Marilyn
Priday
Mae Eglwys Community House wedi bod yn gweithio ers
dros 40 mlynedd i greu cymuned agos yn ardal Maendy. Maen agor ei
drysau i bobl o bob ffydd a dim ffydd fore, prynhawn a hwyr. Ymysg
y bobl leol syn defnyddio ei chyfleusterau y mae plant bach, pobl
hŷn syn chwilio am gwmni a chinio da, ceiswyr lloches a thadau sydd
eisiau rhywle i gyfarfod gydau plant. Mae yno grwpiau ieuenctid,
grwpiau i ferched yn unig, dosbarthiadau Saesneg ac amryw o
weithgareddau a grwpiau eraill.
Mae gan Community House wefan,
sydd i'w gweld
yma. |