|
|
|
Ydych chi awydd treulio blwyddyn yn Amsterdam?

Ydych chi rhwng 18 a 25? Ydi chi'n chwilio am gyfle
i archwilio eich hun, eich ffydd a'r byd - trwy wasanaeth a gofal? A
fyddech yn hoffi gweithio gyda phobl ifanc arall, fel rhan o gymuned
Gristnogol fychan, a fyddai'n rhoi ac yn rhannu, ac a fyddai'n
gwneud gwahaniaeth? Ydi'r syniad o fyw a gweithio ynghanol Amsterdam
yn apelio atoch? A ydych yn barod i gyfnewid 10 mis o'ch bywyd am
fwyd, llety ac arian poced? Os mai 'Ydw' yw'r ateb i'r cwestiynau
yma, yna mae'r Ty Cenhadol ar eich cyfer chi!
Cymuned ryngwladol o 8 o bobl ifanc yn byw gyda'i
gilydd am
ddeg mis mewn tŷ yn Amsterdam yw'r Tŷ
Cenhadol. Bydd pob aelod o'r gymuned yn gweithio llawn amser fel
gwirfoddolwr mewn gwahanol brosectau diaconaidd yn Amsterdam.
Mae'r Ty Cenhadol yn brosiect (Adran Gwasanaeth a
Gwaith Ieuenctid) ar y cyd rhwng Eglwys Protestanaidd Amsterdam,
Adran Gwaith Ieuenctid Eglwys Brotestanaidd yr Iseldiroedd (PCN) a
Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM).
Rydym nawr yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer tm Tŷ Cenhadol
2008-09. Os ydych chi rhwng 18 a 25, yn sengl, yn iach, yn chwaraewr
tm, gyda diddordeb mewn diwylliannau eraill, yn mynychu eglwys sy'n
aelod o CWM ac yn fodlon rhoi 10 mis o'ch bywyd i gyfle gwirfoddoli
gwych, byddai'n dda gennym glywed gennych.
Cyfieithwyd gan Sin Evans, Coleg y Bala
|
|
|
|
|
English |
|
|
|
|
|

Mae angen Adobe Reader
arnoch i lawrlwytho'r ffeiliau
yma.
Os nad oes gennych Adobe
Reader gallwch ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim
drwy glicio
yma
neu ar y llun uchod.
|
|
|