Bywyd a
Thystiolaeth yn Henaduriaeth y Gogledd
Mae
Mrs Heather Staniland wedi dechrau ei swydd newydd fel Swyddog
Hyfforddi a Datblygu rhan-amser yn Henaduriaeth y Gogledd. Bydd Mrs
Staniland yn cynnig cymorth gyda'r cyfleon hyfforddi sydd ar gael
i'r eglwysi a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu partneriaethau
rhwng eglwysi a mudiadau cymunedol a gwirfoddol. Fel rhan o alwad i
wasanaethu o fewn 'eglwys heb furiau', mae'r swydd newydd hon yn
cynnig cyfle pwysig i genhadu.
Mae gan Mrs
Staniland radd mewn diwinyddiaeth o Brifysgol Manceinion a bu'n
athrawes Addysg Grefyddol mewn ysgol uwchradd yng Nghaer.
Diolch i Mr Mervyn Philips
Camau newydd tuag at gydweithio yn
Wrecsam
Fasech chi wedi disgwyl gweld Esgob Anglicanaidd ochr yn ochr â
Llywydd Henaduriaeth yn sefydlu Anglican yn offeiriad ac yn weinidog
Presbyteraidd mewn capel Presbyteraidd?
Do, mewn gorymdaith i
arwyddo eu hundod fe gydgerddodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig
John S. Davies, gydag offeiriadon cylch Wrecsam, Llywydd
Henaduriaeth y Gogledd, y Parch. Neil Kirkham a gweinidogion
Presbyteraidd ac eraill, o Eglwys y Drindod Sanctaidd i Gapel y
Tabernacl, Rhostyllen. Yno roedd cynulleidfa gref i sefydlu’r
Parch. Gary Windon yn weinidog i’r ddwy Eglwys a’u galluogi i
wasanaethu’r gymuned gyfan gyda’i gilydd. Bydd hefyd yn Gaplan yn
Hosbis Tŷ’r Eos.
 |
|
Blaen: Esgob Llanelwy, Parch Gary Windon, Parch Brian Matthews a Llywydd yr Henaduriaeth, Parch Neil Kirkham. Cefn: Llywydd y Gymdeithasfa, Parch David Jenkins, Ysgrifennydd yr Henaduriaeth, Mrs Margaret Jones, Archddeiacon Squires, Canon Geoffrey Marshall, Parch Dafydd Andrew Jones, Mervyn Phillips a Chadeirydd yr Hosbis, Norman Land.
|
Doedd trefn y gwasanaeth nag yn Anglicanaidd nac yn Bresbyteraidd
ond yn hytrach yn blethiad o’r ddau draddodiad mewn litwrgi a roddai
ran i’r gynulleidfa gyfan, i unigolion ddarllen a gweddïo a’r
gweinidog newydd benlinio o flaen yr Esgob i’w drwyddedu, Llywydd yr
Henaduriaeth i’w sefydlu a Chyfarwyddwr Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth
i’w gomisiynu. Pregethodd Llywydd y Sasiwn. Ar y diwedd a phawb
mewn hwyliau ac undod yn cwmnïa yn rhadlon, dyma fwynhau llafur y
chwiorydd.
Dyma
noson i’w chofio am nifer o resymau:
-
Mae’n dangos beth sy’n bosib pan fo awydd a brwdfrydedd i
fentro. Doedd gweinidogaeth i’r ddwy eglwys ddim yn bosib heb
iddynt berthyn ar wahân i ofalaethau aml-eglwysig a fyddai o
bosib yn aneffeithiol a heb y dimensiwn cymunedol. Dyma ymdrech
i wneud rhywbeth newydd a hynny gyda chefnogaeth arweinwyr yr
eglwysi. Priodol iawn yw nodi’n arbennig ymroddiad a chadernid
yr Esgob wrth ddymuno y gwasanaeth unedig yn y capel.
-
Ffocws yr uniad yw’r gymuned gyfan. Oddi mewn i’r ffocws
y mae’r her oblegid bydd yn rhaid holi am addoliad a’i ffurf,
adeiladau a defnydd ohonynt a pherthyn – i bwy? Allan o’r
strygl yna bydd tyfiant mewn ffydd, gobaith a chariad; tyfiant
pobl Dduw ynddo Ef ac i’w gilydd mewn gwasanaeth a thystiolaeth.
-
Roedd ysbryd y noson drwyddi draw yn gynhesol, cyfeillgar
a Christ-debyg: roedd cyffro’r ysbryd yn chwalu unrhyw
ddieithrwch a chreu agosatrwydd ac undod nes peri’r teimlad mai
da iawn oedd i ni fod yno a bod rhywbeth cyffrous yn digwydd
yma.
-
Roedd yn gychwyn da i fenter newydd. Mae Gary Windon, ar
ei gyfaddefiad yn y gwasanaeth, yn fyw i ofynion y fenter os yw
i lwyddo. Bydded i gadernid a brwdfrydedd Amen y
gynulleidfa barhau i’w hysgogi gyda phenderfyniad diwyro i
oresgyn a llwyddo.
Ond
y mae mwy i’w ddweud. Tydi eciwmeniaeth ddim yn fawr; yn wir gall
fod y rhan helaethaf o’n gobaith wrth i’n cyfundrefnau ddihoeni (a
darfod?). Nid polisïau na strategaethau canolog sy’n bwysig ond yn
hytrach awydd Cristnogion lleol (y gweddill ffyddlon) i ddiogelu’r
dystiolaeth Gristnogol yn eu bro a’u cymuned nhw ac felly ddod at ei
gilydd o wahanol draddodiadau i ffurfio cnewyllyn a chychwyn
newydd.
Does
dim rhinwedd mewn diogelu traddodiad na chadw adeilad pan fo’r ffydd
ei hun dan fygwth yn ein cymunedau. Braint y cyfundrefnau fydd
cefnogi a hyrwyddo bwriadau y lleol.
A
sôn am gymuned a chymunedau, beth am y storm sy’n amgylchynu Cyngor
Sir Gwynedd ynglŷn â chau ysgolion. O gofio mai ffydd gymunedol
yw’r ffydd Gristnogol yn ei hanfod, tybed na ddylem fod yn sôn mwy
am gau adeiladau o bob math er mwyn buddsoddi mewn rhai newydd
aml-bwrpas ar gyfer cymuned gyfan a’i hanghenion.
Parch Dafydd
Andrew Jones