|
Cofio Sion Ifan Evans
Gyda
gofid y mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Choleg y Bala yn dod i
delerau â marwolaeth frawychus Sion Ifan Evans. Bu farw yn ysbyty
Maelor Wrecsam ar fore dydd Sadwrn, 9 Chwefror, yn dilyn damwain yn
y Coleg.
Roedd
Sion wrthi yn arwain penwythnos ieuenctid ar y pryd, yn rhinwedd ei
swydd fel gweithiwr ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn
naturiol mae ein consyrn gyda rhieni a chwaer Sion, a gyda’r llu o
ffrindiau a chyfeillion a wnaeth yn ystod ei fywyd.
Apwyntiwyd Sion yn Weithiwr Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym
2002, yn dilyn gyrfa academaidd disglair yn Ysgol Llandysul a
Phrifysgol Bangor.
Yn
ystod y blynyddoedd amlygodd Sion ei ddoniau a sgiliau fel unigolyn
arbennig, yn berson hawdd agosau ato, yn broffesiynol, yn ofalus a
chydwybodol ym mhob agwedd o’i fywyd. Roedd yn ffrind ac yn
gymwynaswr heb ei ail, ond uwchlaw popeth roedd yn Gristion o
argyhoeddiad, wedi dod i adnabod ac wedi cofleidio Iesu’n Arglwydd.
Nid geiriau oedd y profiad hwn, ond bywyd cyfan, a disgleiriai ei
ffydd ddi-sigl drwy y cyfan a wnai.
Mae’r
bwlch ar ei ôl yn anferth, y bywydau sydd wedi eu cyffwrdd yn lawer,
a gallwn ond gweddïo y bydd i’w holl deulu a’i ffrindiau adnabod
nerth a nodded yr Arglwydd yn ystod y cyfnod hwn. Estynnwn ein
cydymdeimlad cywiraf â hwy, gan alaru gyda hwy am golli un a
gyflawnodd gymaint, un y disgwyliem oedd â chymaint eto i’w
gyfrannu.
“Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei
saint Ef.” Salm 116 ad.15. |