www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 321 Chwefror 2008

 

 

Partïon arbennig yn Llanfairpwll

 

Ni fu erioed gymaint o ddathlu penblwyddi gyda’i gilydd ag a fu yn Eglwys Unedig Rhos y Gad Llanfairpwll yn ddiweddar. A rheiny yn benblwyddi arbennig iawn. Yn ystod mis Chwefror dathlodd tri o’r aelodau gyfanswm o ddau gant saith deg o flynyddoedd rhyngddynt! Ar ddechrau’r mis bach roedd Mrs Grace Roberts yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ac wedyn Mr Bleddyn Williams yn dathlu ei 80. Gan eu bod eu dau yn aelodau selog o ddosbarth Ysgol Sul yr oedolion, ( y ddau wedi cael y Fedal Gee) cafwyd parti a the a chacen arbennig yng nghwmni’r gweinidog, Y Parchedig Jim Clarke. Yna, yn goron ar y cyfan, roedd Mrs Rhiannon Jones yn dathlu ei phenblwydd yn 100 oed.

 

 

Mae’r tri yn ffyddlon iawn i’r oedfaon. Yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig, oherwydd gwaith adeiladu, nid oedd system gwresogi yn y capel, ond ni chlywyd yr un o’r tri yn cwyno unwaith nac yn colli oedfa. Cynhaliwyd parti gan Gymdeithas y Chwiorydd hefyd er mwyn llongyfarch a dymuno’n dda i’r ddwy wraig. Tynnwyd lluniau wrth fwrdd bwyd hardd iawn ac arno ddwy deisen penblwydd — un â 90 arni a’r llal â’r rhif 100! Yn holl hanes hir eglwys Rhos y Gad dyma’r tro cyntaf i aelod gyrraedd y cant oed, a’r bore Sul, trannoeth y dathliad teuluol, cafodd cynulleidfa’r bore guro dwylo a chanu ‘Penblwydd Hapus’ i Mrs Jones. Cyflwynodd y gweinidog fasged o flodau iddi gyda dymuniadau da’r gynulleidfa oll. A thynnu mwy o luniau!

 

Cafodd un o’r aelodau, Mrs Wenna Williams, gyfle i gael sgwrs â Mrs Jones ar gyfer y Papur Bro. Disgrifiodd hi fel gwraig fywiog ei hysbryd; ei chof yn ddiball a’i hatgofion yn fyrlymus ddifyr. Soniodd am ei dyddiau cynnar ym Mhen y Bryn, Rhosgadfan, ond yn Llanfairpwll y mae Mrs Jones yn byw bellach ers 14 mlynedd. Mae ei chartref fel nyth bach clyd ac o’i chwmpas enghreifftiau o’i gwaith llaw cain. Er nad yw ei golwg yn ddigon da iddi allu gwnïo bellach, mae’n dal i grosio. A’r bore Sul nesaf ac am lawer bore Sul i ddod hyderir y gwelir Mrs Jones a’i  ffrind cywir Mrs Grace Roberts ac yntau Mr Bleddyn Williams yn eistedd yn eu seddau yng nghapel Rhos y Gad.

Mr Alwyn Pleming

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 21/02/2008