|
Newyn ym Mizoram
Er nad yw hanes y newyn yn nhalaith Mizoram, India, yn y newyddion,
mae ffenomenon ryfeddol a elwir yn Mautam gan y bobl leol wedi bod
yn difetha bywydau'r trigolion.
Bob 48 o flynyddoedd, mae'r planhigyn bambw yn blodeuo
mwy
nac arfer, gan ddenu heidiau o lygod mawr. Yna mae'r llygod yn mynd
yn eu blaenau ac yn dinistrio cnydau'r ffermwyr, gan arwain at
newyn.
Gallwch ddarllen mwy am achosion a natur y newyn ar wefannau
Nerve (News of India) a'r
BBC.
Yn naturiol, mae'r newyn yn achosi pryder dwfn i'n chwaer eglwys,
Synod Eglwys Bresbyteraidd Mizoram.
Mae Ffrynt Cymdeithasol y Synod wedi gyrru taflenni yn annog yr
eglwysi lleol i sefydlu grwpiau hunan-gymorth er mwyn rhoi cymorth
i'r rhai anghenus yn ystod y newyd. Ond nid ydynt yn gallu cynnig
cymorth ym mhob ardal oherwydd diffyg cyllid. Mae'r Synod hefyd yn
ceisio rhoi hadau i'r ffermwyr yn ogystal â chynnal y bobl yn ystod
blwyddyn y newyn.
Byddai'r Synod yn
falch iawn o dderbyn cyfraniadau. Gallwch eu hanfon i:
The Mizoram Synod Social Front
Synod office
Aizawl – 796001
Mizoram,
India
Bydd cyfraniadau yn cael eu cydnabod a byddwch yn derbyn adroddiad
yn sôn am y camau a
gymerwyd a'r rhai a elwodd. Am fwy o fanylion,
cysylltwch â swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Cofiwch weddïo
dros ein cyd-Gristnogion a thros ein brodyr ym Mizoram wrth iddynt wynebu'r
cyfnod anodd hwn. |