www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 330 Ebrill 2008

 

 

Cystadleuaeth FAWR Golau ar y Gair

Dyma gyfle gwych i’r ysgolion Sul hynny sy’n defnyddio Golau ar y Gair i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig a fydd yn caei ei chynnal yn ystod y misoedd nesaf, ac yn cael ei harddangos a’i gwobrwyo ym mhabell yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Y mae 5 adran gwahanol iddi, gyda cyfle i bob oed gymryd rhan.

Cywaith grŵp dan 5 oed - dim mwy na maint A3 (30cm x42cm)
Unrhyw gymeriad Hen Destament o’r gwerslyfrau, megis Gideon, Daniel, Ruth, Moses neu Samuel. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos ym mhabell yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Cywaith grŵp 5-11 oed - dim mwy na maint A2 (60cm x42cm)
Unrhyw olygfa am fywyd Iesu allan o’r gwerslyfrau, megis Porthi’r Pum Mil, Nadolig, Pasg neu Pentecost. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos ym mhabell yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Gwaith ysgrifenedig yn seiliedig ar stori neu gymeriad o’r gwerslyfrau - pob oed
Bydd gwahanol wobrau ar gyfer oedrannau gwahanol. Croesewir cerddi, ysgrifau, dyddiadur dychmygol, portread, ayyb. Bydd y gwaith buddugol yn cael ei gyhoeddi yn y bedair tudalen.

Dylunio cerdyn Nadolig, maint A5 - pob oed
Cerdyn yn darlunio agwedd o stori’r Nadolig. Gellir cyflwyno gwaith celf â llaw neu ar gyfrifiadur. Bydd y cardiau buddugol, ym mhob categori oed, yn cael eu hargraffu fel cardiau Nadolig Cyngor Ysgolion Sul am 2009.

Cynhyrchu fideo - dros 11 oed
Cynhyrchu fideo, dim mwy na 5 munud o hyd, yn darlunio unrhyw gymeriad neu olygfa allan o’r gwerslyfrau; neu sgets gyfoes yn seiliedig ar un o’r storïau yn y gwerslyfrau.

Dyddiad cau ar gyfer y fideo, cerdyn Nadolig a’r rhyddiaeth yw Gorffennaf 9fed - i’w hanfon i’r cyfeiriad isod. Gwahoddir ysgolion Sul i ddod â’r cyweithiau yn uniongyrchol i’r Eisteddfod yn ystod y dydd Sadwrn/Sul cyntaf, neu i wneud trefniadau eraill gydag Aled os oes anhawster gyda hynny.

Cyflwynir gwobrau i’r Ysgolion Sul buddugol, sef ‘set o Feiblau newydd’ a gyhoeddir gan Cyhoeddiadau’r Gair yn ystod 2008.

EWCH ATI I GYSTADLU!

Manylion pellach gan:

Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH / 01766 819120 / aled@ysgolsul.com.

bullet

Manylion y Gystadleuaeth FAWR a chwis newydd y Cyngor Ysgolion Sul (PDF, 138KB)

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 30/04/2008