www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 308 Mai 2008

 

 

Seiclon Bwrma

Mae elusennau dyngarol yn galw am weddïau a chyfraniadau ar gyfer trigolion Bwrma yn dilyn y seiclon trychinebus.

Mae bron i 23,000 o bobl wedi marw a dros 40,000 ar goll yn dilyn Seiclon Nargis. Disgwylir i'r ffigwr hwn gynyddu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, gydag un diplomydd yn awgrymu y gallai hyd at 100,000 fod wedi marw.

Mae hyd at filiwn o bobl yn ddigartref.

Mae angen ymgyrch ddyngarol anferthol er mwyn helpu trigolion Bwrma, ac mae Cymorth Cristnogol, ynghyd ag aelodau eraill y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yn galw am gyfraniadau.

Yn ôl Cymorth Cristnogol, gall:

  • £20 helpu i ddarparu dau becyn yn cynnwys tabledi puro dŵr, meddyginiaeth a bwyd;

  • £40 dalu am system rybudd megis uchelseinyddion a fflagiau i gymuned;

  • £100 fynd tuag at ddeunyddiau i greu llety dros-dro.

Gallwch gyfrannu tuag at yr apêl drwy ymweld â gwefan Cymorth Cristnogol neu drwy anfon siec i:

    Cymorth Cristnogol   
    5 Heol yr Orsaf
    Radur
    Caerdydd
    CF15 8AA
 

Cyfrannwch yn hael, os gwelwch yn dda, a gweddïwch dros drigolion Bwrma, dros eu llywodraeth a thros y rhai sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch ddyngarol.

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 08/05/2008