www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 309 Mai 2008

 

 

Pennaeth Cytûn yn annerch grŵp yn yr Wyddgrug

Nid yw'r awdurdodau yn llawn werthfawrogi cyfraniad mewnfudwyr i Gymru, yn ôl y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn.

mewn anerchiad diweddar i Grŵp Cyfiawnder, Heddwch a Chyfanrwydd y Greadigaeth (CHCG) yr Wyddgrug, dywedodd y Parch Edwards nad yw adroddiad diweddar Tŷ'r Arglwyddi ar fewnfudo yn cydnabod y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan fewnfudwyr i economi Cymru. Yn ogystal â chroesawu'r twf economaidd yma, yr her sy'n wynebu Cristnogion yw bod yn llais i'r rhai sy'n fud a gwrthsefyll ymdrechion i ledaenu ofn.

Mae'r CHCG yn cydweithio â Parkfields, canolfan gymunedol wedi ei seilio mewn eglwys, gan gynnal cyfarfodydd ar faterion cymdeithasol pwysig, ac yn cynnal cyfres flynyddol o sgyrsiau dros ginio. Y thema eleni oedd 'Perthyn ym Mhrydain.'

Yr ail siaradwr oedd AS Delyn, David Hanson, a siaradodd am ddinasyddiaeth a'r angen i ddal a defnyddio yr hawliau a enillwyd dros y blynyddoedd - hawliau pleidleisio a enillwyd yn y gorffennol yn ogystal â rhai a enillwyd yn gymharol ddiweddar pan sefydlwyd y Senedd Ewropeaidd a Chynulliad Cymru. Cwestiwn sy'n cael ei godi nawr yw os y dylid dod â'r hawliau amrywiol at ei gilydd mewn Mesur Iawnderau.

Yn y trydydd cinio, daeth hen ffrind i CHCG yr Wyddrgug, Apolo Santana, i sôn am ei brofiad fel alltud o'i famwlad, Chile. Bu'n gweithio fel gwas sifil nes iddo gael ei garcharu pan fu coup militaraidd: yn y pen draw cafodd ei ryddhau diolch i'r undebau llafur ym Mhrydain a daeth yma fel alltud. Mae pobl sydd newydd gyrraedd yma yn dod wyneb yn wyneb â chamddealltwriaeth a rhagfarn, ac mae angen gofal syml ar bawb. Ar yr un pryd, roedd yn teimlo bod angen i ffoaduriaid a mewnfudwyr i gofio mai braint yw cael aros yma.

Cyflwynwyd y pwnc olaf gan y Parch Peter Nunn (Wrecsam), a fu'n disgrifio y gwaith a wneir i greu cysylltiadau rhwng pobl o wahanol ffydd yng ngogledd Cymru. Does neb yn disgwyl i bobl roi'r gorau i'w credoau a'u harferion traddodiadol eu hunain, ond yn hytrach, rhaid parchu'r bobl sy'n wahanol i ni.

Diolch i Mervyn Phillips

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 09/05/2008