Barn ar y wefan
Mae gwefan yn fodd hollbwysig o gyfathrebu heddiw:
gall gwefan dda gyfleu neges a natur cwmni neu sefydliad yn
effeithiol dros ben.
Rydym yn gobeithio ail-ddylunio gwefan Eglwys
Bresbyteraidd Cymru dros y misoedd nesaf, ac rydym yn awyddus i
glywed eich barn. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o'r Eglwys -
rydym eisiau clywed gan bawb sy'n defnyddio'r wefan!
Mae croeso i chi ddefnyddio'r cwestiynau isod fel man
cychwyn:
-
Pam ydych chi'n defnyddio'r wefan?
-
Beth hoffech chi ei weld ar y wefan?
-
Oes yna adrannau sydd, yn eich barn
chi, yn ddi-angen?
-
Beth ydych yn ei hoffi am ddiwyg/golwg y
wefan? Beth nad ydych yn ei hoffi?
-
Beth, yn eich barn chi, ddylai prif bwrpas y
wefan fod?
Efallai yr hoffech edrych ar wefannau eglwysi eraill
i gael syniadau:
Gallwch
e-bostio eich sylwadau i ni. Byddwch yn onest!