Bydd cyfres ddogfen
gynhwysfawr sy'n dechrau ar 17 Mehefin ar S4C yn bwrw golwg o'r
newydd ar y gelfyddyd, eiconau, defodau, mythau a gwyrthiau sy'n
ganolog i'r ffydd Gristnogol ers dros ddwy fil o flynyddoedd.
Dros y chwe wythnos
nesaf am 9.00pm ar nosweithiau Mawrth, bydd y newyddiadurwr
arobryn Tweli Griffiths yn ein harwain ar siwrne ddifyr i 11 gwlad
yn y gyfres newydd Côd Cristnogaeth.
Yn
y rhaglen gyntaf yn y gyfres, sydd yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol
wedi ei saethu ar fformat Diffiniad Uchel, fe fydd Tweli yn gofyn
'Pam bod yna gymaint o bwyslais ar gnawd a gwaed yn y ffydd
Gristnogol?'
Meddai Tweli, o
Langynog, sir Gaerfyrddin, "I geisio ateb y cwestiwn yn y rhaglen
gyntaf, fe fues i'n dyst i un o'r digwyddiadau mwyaf rhyfedd a
welais yn fy ngyrfa fel gohebydd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
"Roedd gweld credinwyr
Cristnogol yn Pampanga yn y Philippines yn gwneud yn iawn am eu
pechodau trwy gael eu croeshoelio a' u chwipio yn brofiad na fyddaf
yn ei anghofio. Roedd y profiad hwn ymhlith profiadau eraill yn
ystod y ffilmio yn gwneud imi sylweddoli pa mor ddwfn ac eneidiol yw
defosiwn pobol i grefydd fwya'r byd."
Y cwestiynau eraill a
godir yn rhaglenni'r gyfres yw: lle yr ydym yn mynd ar ôl inni farw;
beth neu bwy yw angylion; beth yw ystyr symbolau; beth yw gwyrthiau
ac a oes yna obaith am undod mewn Cristnogaeth?
Yn ei gwest am atebion,
mae Tweli yn ymweld â mannau mor amrywiol a difyr â'r ffresgos
cyntefig yn y catacwmau hynafol yn Rhufain i'r bererindod liwgar yn
Kulubi, Ethiopia a'r Bryn o Groesau yn Lithwania.
Mae
ei ymchwil hefyd yn ei arwain at leoliadau Cristionogol arwyddocaol
yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i Lasynys, Harlech ac i
gartre' Ellis Wynne, a ysgrifennodd y clasur llenyddol
Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n cynnwys portread gafaelgar o
uffern.
Mae hefyd yn ymweld â
chartref y pregethwr enwog o'r 18fed a 19eg ganrif Christmas Evans
yn Llangefni, Ynys Môn, man pererindod boblogaidd Santes Gwenfrewi
yn Nhreffynnon, Sir y Fflint a'r Eglwys Uniongred Roegaidd ym
Mlaenau Ffestiniog.
Ychwanegodd Tweli, "Fel
newyddiadurwr, roedd gen i ddiddordeb arbennig yn hanes gwleidyddol
y ffydd Gristnogol. Rydyn yn gobeithio y bydd y gyfres yn helpu
egluro beth sydd wedi rhannu ac uno Cristnogaeth dros y ddwy fil o
flynyddoedd diwethaf."
Côd Cristnogaeth, S4C,
yn dechrau nos Fawrth, 17 Mehefin, 9.00pm.
Is-deitlau Cymraeg a
Saesneg ar gael.
s4c.co.uk/gwylio