|
Golau ar y Gair 2008
Mae modd
nawr i chi archebu gwerslyfrau Golau ar y Gair 2008.
Lansiwyd
cyfres Golau ar y Gair yn 2007, a chafodd dderbyniad gwresog iawn,
gyda llawer yn werthfawrogol iawn o dderbyn y llyfrau adnoddau yn
fisol. Mae yna gwis Beiblaidd wedi ei drefnu ar gyfer
defnyddwyr y gwerslyfrau, yn ogystal â
chystadleuaeth arbennig.
Manylion a Ffurflen Archebu Golau ar y Gair 2008 (PDF)
Mae canolfan ar gyfer ysgolion
Sul ar agor ym Mhwllheli o 10 tan 5 bob dydd Mercher (neu trwy
drefniant ar adegau eraill hefyd), lle ma cyfle i brynu holl
adnoddau Cyhoeddiadau’r Gair a detholiad
o lyfrau ac adnoddau Cristnogol Cymraeg a Saesneg. Cofiwch hefyd bod ein holl gynnyrch
Cyhoeddiadau'r Gair ar gael o’ch siop
Gymraeg neu siop Gristnogol leol, ac ar y wê drwy ymweld â
www.gwales.com Mae’n bosibl i chi archebu drwy’r post hefyd, trwy
gysylltu â'r swyddfa.
Y ganolfan ym
Mhwllheli:
Tŷ y Gair, 5 Ala Isaf,
Pwllheli, Gwynedd, LL53 5BU
Dylid cyfeirio pob
gohebiaeth i’r swyddfa:
Aled Davies, Cyngor
Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog,
Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
01766 819120
/ 07894580192 /
aled@ysgolsul.com.
|