Roedd pabell y Cyngor
Ysgolion Sul yn ferw o weithgarwch drwy gydol wythnos Eisteddfod yr
Urdd yn Llandudno, gyda gweithgareddau newydd yn denu plant o bob oed.
|
 |
|
Llun:
Urdd |
Roedd paentio gwynebau yn
boblogaidd iawn, yn ogystal â'r peiriant gwneud bathodynnau. Ac
roedd fferins i bawb, yn ogystal â chyfle i gymysgu coctêl
di-alcohol o dan nawdd y Cyngor Alcohol a Chyffuriau.
Bydd y gweithgareddau
hefyd ar gael yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac yn yr
Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Manylion: y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol (PDF)