Galw am etholiadau teg yn Zimbabwe
Mae
arweinyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi galw ar Gymuned
Ddatblygu Deheudir Affrica (CDDA Southern African Development
Community) i ddwysáu ei hymdrechion i sicrhau bod etholiad teg
yn cael ei chynnal yn Zimbabwe, lle bydd ail rownd yr etholiad
arlywyddol yn cael ei chynnal ar 27 Mehefin.
Mae
deuddeg o arweinyddion eglwysig Prydeinig wedi ysgrifennu at
Arlywydd Levy Mwanawasa o Zambia, sef llywydd y CDDA, gan fynegi eu
pryder dwfn ynglŷn â’r sefyllfa, sy’n mynd o ddrwg i waeth. Mae
Llywydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi
datgan eu cefnogaeth lwyr i’r neges.
“Mae
pleidleiswyr yn cael eu bygwth a’u harteithio,” meddai’r Llywydd, y
Parchedig John Owen “ac mae grwpiau hawliau dynol yn dweud bod
dwsinau o bobl wedi cael eu lladd.”
“Rwy’n
bryderus iawn bod hyn yn gwneud cynnal etholiad teg yn amhosible.
Rwy’n cymell y CDDA i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl
Zimbabwe i roi diwedd ar y trais a’r bygythiadau.”
Er y
trafferthion economaidd dybryd yn Zimbabwe, mae’r llywodraeth wedi
gorchymyn asiantaethau dyngarol i roi’r gorau i bob ymgyrch
ddyngarol. Nid yw grwpiau sy’n agored i newid, megis plant amddifad,
pobl anabl, pobl sydd â HIV ac AIDS a phobl oedrannus, bellach yn
derbyn cymorth bwyd.
“Mae’n
sefyllfa mor drist” meddai Lyn Eltringham, blaenor yn eglwys Stow
Park, Casnewydd, a fu’n byw yn Zimbabwe am ddeg mlynedd ar hungain.
“Cafodd fy mhlant eu geni yn Zimbabwe. Dwi’n meddwl bod yn rhaid i
chi fod wedi adnabod y wlad cynt i allu deall gymaint mae pethau
wedi gwaethygu.”
“Allwn
ni ddim ond gweddďo y bydd pethau’n gwella.”
Mae
Cyngor Eglwysi’r Byd wedi galw ar i bob Cristion i weddďo dros
Zimbabwe ar ddydd Sul, 22 Mehefin 2008.
“Rydym yn galw ar ein
haelodau i gofio am Zimbabwe wrth weddďo dydd Sul a bob dydd wythnos
nesaf” meddai’r Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol
Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
“Gweddďo y bydd pobl
Zimbabwe yn cael pleidleisio heb gael eu brifo neu’u bygwth, ac y
bydd y llywodraeth yn rhoi diwedd ar y trais. A gweddďo y bydd y
CDDA a chyrff rhyngwladol eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu i
sicrhau etholiadau teg.”