www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 320 Mehefin 2008

 

 

Hanesion o Gwm Tawe a Dyffryn Aman

 

Bu'r misoedd diwethaf yn gyfnod prysur yn rhai o gapeli'r de orllewin, Tawe, gyda Sasiwn y de a Sasiwn Merched y De, ymysg pethau eraill, yn cael eu cynnal yno.

 

Wedi gwaith paentio, "trwsio, cyfannu a chryfhau", roedd Soar, Pontardawe, yn barod i groesawu tua hanner cant o gynrychiolwyr i'r Gymdeithasfa (Sasiwn) yn y De ar Fai 6 a 7. Bu pump eisteddiad, gan gynnwys dwy oedfa gyhoeddus.

 

Diolchwn i blant ac athrawon Ysgol Gymraeg Pontardawe a Chanolfan Gwenallt (chweched dosbarth), Ystalafera, am eu cyfraniad gwerthfawr i'r oedfa olaf. Diolch hefyd i aelodau hŷn a mamau plant yr Ysgol Sul am gymryd rhan yn y rhaglen deyrnged i Gwenallt a Tomos Lefi. Roedd y capel yn llawn, a chasglwyd £250 er budd apêl Cymorth Cristnogol (Bwrma). Ychwanegwyd £200 at y cyfanswm gan y ddwy ysgol gan eu bod o'r farn bod mwy o angen ar blant Bwrma nag oedd arnynt hwy.

Rhai o aelodau Soar a disgyblion Ysgol Gymraeg, Pontardawe a Chanolfan Gwenallt, Ystalafera, a gymerodd ran yn nathliad Soar o'i etifeddiaeth

Bythefnos yn ddiweddarach, ar 20 Mai, cynhaliwyd Sasiwn Chwiorydd y De yn Nghapel Bethany Rhydaman. Y Parchedig Wyn Morris, Penrhyncoch, a Mr Gwyn Angell Jones oedd yn annerch a Mr Glynog Davies yn arwain y canu. Bu'r ddau siaradwr yn sôn am ein maes cenhadol yn Assam, gogledd-ddwyrain yr India.

Soniodd Wyn am y parch sydd ymhlith trigolion bryniau Kasha i'r "Fam Eglwys" yng Nghymru. Bu Mr Angell Jones, a anwyd yno ac a fu'n byw yno nes ei fod yn 10 mlwydd oed, yn dangos fel mae eu ffydd yn treiddio i bob rhan o'u cymdeithas a'u dyled i'r Cymry am roi iaith ysgrifenedig iddynt a dylanwadu cymaint ar eu haddysg. Rydym yn dal i'w cefnogi drwy dalu am offer angenrheidiol i'r ysbytai yn Jowai a Shillong.

Diolch i Mrs Cynthia Dodd am anfon y toriadau o "Y Llais".

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 02/07/2008