Llyfrau yn siomi Llywydd
Mae
Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi ei siomi’n fawr gan gyfres o
lyfrau sy’n sôn am grefyddau’r byd.
Yn ôl y Parchedig
John Owen, nid
yw’r traddodiad ymneilltuol Cristnogol yn cael unrhyw sylw yng
nghyfres newydd Tania ap Siôn, Crefyddau’r Byd Heddiw.
“Mae
pump o’r cyfrolau yn sôn am wahanol grefyddau” meddai. “Mae un yn
canolbwyntio ar yr Eglwys Uniongred a’r olaf ar Anglicaniaeth –
Eglwys y Plwyf.
Ond nid oes sôn am ymneilltuaeth.”
“Mae’r gyfres yn
rhoi’r argraff mai’r Eglwys yng Nghymru yw’r unig eglwys yng Nghymru
ac yn y plwyf.”
Mewn llythyr i’r
Cymro, cwestiyna’r Parchedig Owen y teitl “Eglwys y Plwyf”, gan
nodi nad oes y fath beth ag “eglwys y plwyf” yng Nghymru ers y
Datgysylltiad ym 1920.
I weld y stori a'r llythyr yn Y Cymro,
cliciwch
yma (PDF, 131KB)
Yn ôl adroddiad
diweddar, 33% o gynulleidfaoedd Cristnogol Cymru sy’n perthyn i’r
traddodiad Anglicanaidd. Mae tua hanner y cynulleidfaoedd yn perthyn
i un o’r enwadau ymneilltuol.
“Rwy’n deall bod
angen rhoi darlun realistig o fywyd Cristion yn hytrach na darlun
cyffredinol o’r enwadau” meddai. “Ac mae’n debyg bod y diffyg sôn am
ymneilltuaeth yn deillio o ddiffyg arian.”
“Ond rwy’n deall bod
yr Eglwys yng Nghymru yn darparu ar gyfer yr ysgolion sy’n perthyn
iddi. Felly onid oes mwy o reswm dros gynhyrchu llyfryn yn cyflwyno
ymneuilltuaeth Cymru yn ogystal â’r traddodiadau eraill?”
“Gobeithio na fydd y
math hwn o anghytbwysedd yn digwydd eto.”