|
|
|
Yr Orsedd yn anrhydeddu Blaenoriaid
Bydd nifer o flaenoriaid Eglwys Bresbyteraidd Cymru
yn cael eu derbyn fel aelodau o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol
Caerdydd a'r Cyffiniau ym mis Awst.
Y rhai a anrhydeddwyd yw:
-
Neli Jones,
Ponrhydfendigaid: Urdd Derwydd er Anrhydedd (Y Wisg
Wen). Ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r
Orsedd a'r Eisteddfod.
John
Gwynfor Jones, Caerdydd:
Urdd Derwydd (y Wisg Wen).
Cyhoeddodd eisoes nifer
helaeth o gyfrolau ac erthyglau gan sefydlu ei le yn
brif awdurdod yn ei faes yn hanes Cymru. Bu'n hybu,
dysgu a chyfarwyddo myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gan
ledu'r egwyddor honno i faes arholiadau'r ysgolion. Bu
hefyd yn ymroddedig iawn ym mywyd diwylliannol a
chrefyddol Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd.
John Glyn Jones,
Dinbych: Urdd Derwydd (Y Wisg Wen). Bu ei gyfraniad i
ddiwylliant Cymraeg ardal Dinbych yn eithriadol. Ar
wahân i'w lwyddiant fel Prif Weithredwr Cymdeithas Tai
Clwyd, a'i wasanaeth fel Ynad Heddwch, y mae'n fardd o
safon genedlaethol, ac yn un o swyddogion Barddas. Mae'n
arweinydd tîm y Talwrn â thîm y papur bro, ac yn
gyfrannwr ymroddgar ym myd iaith a chrefydd a
gwleidyddiaeth.
Dewi Morris Jones,
Bronant: Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg
Werdd). Rhoddodd oes o wasanaeth fel golygydd
proffesiynol gan olygu cannoedd o deipysgrifau a'u
llywio drwy'r wasg. Y mae hwn yn waith creadigol sy'n
gofyn am grebwyll llenyddol yn ogystal â manylder
technegol. Y mae'n ŵr o ddiwylliant eang, yn rhugl ei
Lydaweg a'i Ffrangeg, ac yn ymroddgar yn ei wasanaeth
i'w gymuned yn ei fro.
John Price, Ystradgwyn
(Machynlleth): Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd).
Crefftwr cain sy'n gelfydd eithriadol wrth drin metelau.
Lluniodd lu o goronau a thlysau i eisteddfodau a gwyliau
lleol a chenedlaethol, gan gynnwys pedair coron i'r
Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n beirniadu yn rheolaidd yn
yr adran grefftau yn y Sioe Frenhinol. Ac, yn goron ar
ei gyflawniadau, y mae'n eang ei ddiwylliant, yn
ymroddgar i'w eglwys a'i gymdeithas.
Sidney Davies, Glyn
Ceiriog: Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd). Gwraig gampus i'w chymdogaeth. Wedi priodi Theo Davies o
Lyn Ceiriog ymsefydlodd yn y dyffryn gan gyfrannu'n
gyfoethog iawn at fywyd masnachol a chrefyddol a
diwylliannol y fro ar hyd yr hanner canrif y mae wedi
bod yno. Ym mhob gweithgaredd o bwys yn y rhan hon o
Gymru mae ganddi hi ryw gyfran allweddol.
Hefyd yn cael ei anrhydeddu bydd y Parchedig Aled
Edwards, Prif Weithredwr Cytûn. Llongyfarchiadau iddynt, ac hefyd i aelodau
eraill Eglwys Bresbyteraidd Cymru fydd yn cael eu
hurddo.
|
|
|