www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 316 Gorffennaf 2008

 

 

Ymateb i ddyfarniad tribiwnlys

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi ymateb i ddyfarniad tribiwnlys cyflogaeth a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Daeth y tribiwnlys i’r casgliad bod Stephen Price, a fu’n gweithio i’r Eglwys yng Ngholeg Trefeca, wedi dioddef anffafriaeth ar sail rhywioldeb a’i boenydio gan reolwraig. Enillodd achos o ddiswyddiad adeiladol hefyd, a dyfarnwyd iawndal o £36,924 iddo.

“Rydym yn derbyn y penderfyniad ac yn ymddiheuro’n ddiffuant i Stephen am y loes a’r anghyfleustra a achoswyd”, meddai’r Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol.

“Bu i ni drin yr achos yma gyda difrifoldeb a chawsom gyngor proffesiynol bob cam o’r ffordd. Byddwn yn ceisio cyngor pellach fel y bydd angen.”

“Petai cwyn yn erbyn aelod o’r gweithlu yn codi yn y dyfodol, ni fyddwn yn ceisio cynnal ymchwiliad mewnol ond yn hytrach, byddwn yn pasio’r mater i arbenigwyr all gynnal ymchwilad o’r fath ar ein rhan.” 

“Rydym eisoes wedi trefnu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer ein gweithwyr.”

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 16/07/2008