Mae
Congregational & General, cwmni yswiriant nifer fawr o eglwysi
EBC, wedi ffurfio partneriaeth strategol gyda chwmni yswiriant
arbenigol rhyngwladol Hiscox.

Gan ddechrau gyda threfniant cyd-yswiriant ar gyfer cyfrifon
yswiriant tŷ Congregational, bydd y bartneriaeth yn esblygu er
mwyn cynnig cynhyrchion a datblygiadau eraill.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Carlo Cavaliere, Rheolwr
Gyfarwyddwr Congregational: "Rydym yn falch iawn o gael
ffurfio partneriaeth strategol gyda Hiscox, sefydliad sy'n
rhannu nifer o'n gwerthoedd allweddol."
Mae
Congregational & General gwmni yswriant annibynol uchel ei
barch, ac mae'n yswirio gwerth bron i £5 biliwn o asedau
eglwysig. Wedi ei leoli yn Bradford, mae'n eiddo ymddiriedolaeth
elusennol sydd, hyd yma, wedi derbyn dros £6 miliwn i'r rannu
drwy geisiadau grant i eglwysi ac achosion da eraill.