www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 31 Hydref 2008

 

 

Apêl newydd: Utility Warehouse

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi ymuno â chynllun codi arian newydd yn ddiweddar, ac mae'n gobeithio y bydd ei haelodau a'i heglwysi yn cymryd rhan hefyd.

Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Utility Warehouse Discount Club, sy’n rhan o Telecom plus CCC, cwmni Prydeinig mawr sydd wedi ei restru ar Farchnad Stoc Llundain.

Beth ydi Utility Warehouse?

bullet

Cwmni sy'n darparu gwasanaethau fel ffôn, y we, ffôn symudol, trydan a nwy i dros 200,000 o gwsmeriaid preswyl a busnes ar hyd a lled y DU.

bullet

Cwmni sydd yn gaddo y bydd cost eu gwasanaethau yn gystadleuol o’i gymharu â darparwyr eraill; ac mae’r rhan fwyaf o’r cwsmeriaid sy’n symud atynt yn arbed arian sylweddol o’i gymharu â’u darparwyr presennol. 

bullet

Cwmni sydd yn cynhyrchu un bil misol cyfleus ar gyfer eich gwasanaethau i gyd.

bullet

Cwmni oedd ar y brig mewn arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid gan gylchgrawn Which? yn ddiweddar.

Pan fyddwch yn ymuno â’r Utility Warehouse, byddant yn cyfrannu hyd at 5% o’ch bil misol i Eglwys Bresbyteraidd Cymru.  Gallai hyn gynhyrchu incwm sylweddol a dibynadwy, yn enwedig os bydd llawer ohonom yn cymryd rhan.  Byddem hefyd yn falch o dderbyn awgrymiadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r arian a godir.

Mae ymuno â’r Utility Warehouse yn syml.  Gallwch eu ffonio, yn rhad ac am ddim, ar 0800 1313000 a byddant yn egluro’r broses i chi.  Rhaid i chi roi ein rhif apêl, B68077, i sicrhau bod eich cyfraniadau yn dod i ni. Mae’r broses o drosglwyddo yn hawdd – mae’r cyfan yn digwydd dros y ffôn.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod neu cysylltwch â ni!

bullet

Tystebau aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru

bullet

Enghraifft o fil misol Utility Warehouse (PDF, 1235KB)

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried ymuno â’r cynllun, fel unigolion neu fel capel, a rhoi gwybod i aelodau eich capel am y cynllun.  Gallai wneud gwahaniaeth mawr i Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 05/01/2009