Tystebau Utility Warehouse
"Bum mlynedd yn ôl, trosglwyddais i gwmni Utility
Warehouse Discount Club (UWDC) am nwy a thrydan. Er bod
darparwryr wedi cynyddu prisiau tanwydd yn ystod y 12 mis
diwethaf, mae UWDC
yn dal ymhlith y cwmnïau rhataf. Nid wyf wedi ystyried
trosglwyddo at gwmni arall.
Rwy’n reit fodlon ar y gwasanaeth a dderbyniaf."
Llywydd y Gymanfa
Gyffredinol - y Parch D Haydn
Thomas, Caerdydd
"Pleser yw cymeradwyo gwasanaeth Utility
Warehouse. Drwy fanteisio ar bob darpariaeth - cyflawni trydan, nwy, ffôn, ffôn symudol a
band llydan rwyf yn arbed oddeutu £30 y mis. Mae pob agwedd o'u
gwasanaeth yn gwrtais ac effeithiol. Yn ogystal gall yr eglwysi
ac elusennau fanteisio yn ariannol wrth i nifer cynhyddol o'r
aelodau
dderbyn darpariaethau Utility Warehouse." Parch Dafydd H Owen,
Cyn-Lywydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol
"Mae ymuno
gyda chynllun Utility Warehouse yn hynod o rhwydd a di-ffwdan,
ac mae’n braf iawn i gael yr holl filiau wedi eu huno. Rwy’n
sylwi hefyd ar y gostyngiad yn y costau. Ond y peth gorau yn fy
marn i yw’r cyfle i ffonio – yn rhad ac am ddim - ffrindiau
sydd hefyd yn perthyn i’r cynllun!" Elin Jones, Caerdydd
Os gwelwch
yn dda, a wnewch chi ystyried ymuno â’r cynllun, fel unigolion
neu fel capel, a rhoi gwybod i aelodau eich capel am y cynllun.
Gallai wneud gwahaniaeth mawr i Eglwys Bresbyteraidd Cymru.