www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 37 Hydref 2008

 

 

Newyddion o Ros y Gad

O fewn tridiau cafwyd gweithgareddau gwahanol a gwrthgyferbyniol yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfair Pwllgwyngyll.

RHODD

Nos Iau 2 Hydref yng nghyfarfod cyntaf y Gymdeithas, pryd y diddanwyd pawb gan Hogiau’r Bonc, cyflwynwyd plat wedi ei greu yn arbennig a blodau i Mrs Mair Evans, a oedd wedi ymddeol fel Ysgrifennydd Y Gymdeithas ar ôl 33 mlynedd o wasanaeth arbennig o gydwybodol.


Miss Eleri Jones (Trysorydd Y Gymdeithas), Mrs Mair Evans
a Mr Alun Mummery (Llywydd Y Gymdeithas)

GWERTHU

Ar fore Sadwrn 4 Hydref cynhaliwyd Stondin Masnach Deg am y tro cyntaf a daeth aelodau ac eraill o’r pentref i gefnogi ac i brynu. Bydd y stondin ar agor ar fore Sadwrn cyntaf pob mis ac yn ystod cyfnod y paned ar ddiwedd oedfa’r bore o fis i fis. Mae’r trefniadau yng ngofal Nia Morgan, Gwenda Mai Edwards, Bethan Thomas, Cadi Thomas a Luned Edwards.


Y tu ôl i’r bwrdd yn gwerthu: Gwenda Mai Edwards,
Gwen Thomas, Cadi Thomas, Luned Edwards a Bethan Thomas

ARDDANGOS

Roedd cynulleidfa gref ar y Bore Sul ac yn eu gwynebu ar dop y piano oedd arddangosfa o Arch Noa – a chasgliad o anifeiliad o bob math sydd wedi cael eu gwau gan aelodau ar gyfer eu defnyddio yn ystafell y plant bach a defnyddiodd y Gweinidog (y Parch Jim Clarke)  y rhain fel sylfaen ei sgwrs gyda’r plant cyn i’r rhai ieuengaf ymadael i’r ysgol Sul. Cyhoeddwyd mai’r project gwau nesaf fydd cymeriadau’r Nadolig.

DERBYN

Pinacl yr holl ddigwyddiadau oedd gweddill gwasanaeth Bore Sul, dan arweiniad y Gweinidog, pryd y derbyniwyd tair o ferched ifanc yr eglwys yn gyflawn aelodau. Cafwyd orig hyfryd a’r dair yn amlwg hapus. Pwysleiswyd mai hwy oedd wedi dymuno a dewis bod yn aelodau ac nad unrhyw bwysau gan neb arall oedd yn gyfrifol am eu penderfyniad. Mae’r tair eisoes yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr at waith a bywyd yr eglwys yn Rhos y Gad. Cafwyd cymeradwyaeth fywiog, drwy guro dwylo, gan yr aelodau i’w croesawu ar derfyn y ddefod o Dderbyn. Wedi hynny gweinyddwyd y Cymun gan y Parch Jim Clarke.


Cadi Rhys Thomas, Luned Elain Edwards, Parch Jim Clarke a Llinos Wynn Davies

Diolch i Mr Rheinallt Thomas

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 07/10/2008