Lansio Clwb Cristnogol Cydenwadol yn Rhydaman

Mae Iesu Grist
wedi gorchymyn i'w eglwys i fynd â'r efengyl i'r holl fyd ac mae
hynny'n golygu nid yn unig gwledydd pell dros y môr ond hefyd
ein pentrefi a'n trefi yma yng Nghymru. Gwyddom i gyd am y
dirywiad mawr yn hanes Cristnogaeth yn ein gwlad ac fel mae
cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant yn tyfu fyny heb wybod
fawr ddim am Dduw a'r ystyr i fywyd sydd ar gael ym mherson Iesu
Grist.
Sut felly mae
cyrraedd plant ein hardal gydag efengyl yr Arglwydd Iesu? Un
ffordd posib yw trwy sefydlu clwb Cristnogol sy'n cyfarfod yn
ystod yr wythnos ac sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau
cyffrous gan gynnwys cyflwyniad cyfoes o neges y Beibl.
Dyna'n union
sydd wedi digwydd yn Rhydaman yn ddiweddar. Mae eglwysi'r
Annibynwyr, y Bedyddwyr a'r Presbyteriaid wedi uno i ffurfio
“Clwb Hwyl Hwyr” sy'n cyfarfod yn wythnosol ar nos Wener o 5:30
- 6:30 p.m. yn Neuadd Gellimanwydd. Yn dilyn llawer o gynllunio
a threfnu yn ystod y misoedd blaenorol trefnwyd noson lansio ar
Fedi 12fed o dan arweiniad Rosfa'r Consuriwr, sef Y Parch Eirian
Wyn. Cafwyd amser llawn hwyl yn ei gwmni ac fe wnaeth pawb
fwynhau ei hiwmor a rhyfeddu at ei driciau o hud a lledrith.
Bydd y
clwb yn parhau i gyfarfod yn wythnosol yn ystod tymhorau'r ysgol
ac yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau,
cystadlaethau, gwobrau a chrefft heb anghofio wrth gwrs y stori
Feiblaidd. Mewn cyfnod o drai ar grefydd yn ein gwlad, da yw
gweld eglwysi tref Rhydaman yn cydweithio i ymateb i alwad Crist
ac estyn allan i blant y gymdeithas o amgylch gyda neges efengyl
yr Arglwydd Iesu.

Meddai Iesu,“Gadewch i'r plant ddod ataf fi, peidiwch â'u
rhwystro.”
(Marc 10:14)
Nigel Davies
(Swyddog Plant/Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin)