www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 320 Hydref 2008

 

 

Cyfle Newydd yng Nghapel y Rhos

Yn ystod y degawd ddiwethaf bu raid i aelodau tair Eglwys Gymraeg yng nghylch Bae Colwy ystyried yn ddifrifol sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol. ’Roedd ffactor pwysig i’w hystyried, sef y dirywiad yn rhif ein aelodaeth a’r gwariant angenrheidiol ar yr adeiladau er mwyn bodloni anghenion y ddeddfwriaeth newydd ar adeiladau cyhoeddus. Ar ôl cryn drafodaethau gwnaed cytundeb rhwng Griffiths Williams Associates, Bae Colwyn a’r cwmni adeiladwyr Anwyl i fynd ati i ail-ddatblygu safle capel Hermon.

Cytunodd blaenoriaid Hermon gyda chefnogaeth y mwyafrif o’r aelodau i ddymchwel yr hen adeilad a chodi adeilad newydd mwy addas, llai, fyddai’n diwallu disgwyliadau mewn oes dechnoleg fodern. ’Roedd hefyd ddigon o le ar y safle i godi wyth o fflatiau o ansawdd uchel. I gyd-fynd â’r penderfyniad pwysig hwn pleidieisiodd aelodau Hermon ac aelodau Eglwys Bethlehem i uno o dan enw newydd Capel y Rhos. Llawenydd inni eleni oedd derbyn aelodau Nasareth Mochdre hefyd i’n plith. Bellach mae oddeutu cant o aelodau ar y llyfrau.

Er bod y newidiadau cyffrous wedi esgor ar deimladau cymysg dros ben cawsom gydweithrediad hapus swyddogion y tair Eglwys a chefnogaeth yr aelodau drwy’r cyfan. ’Does dim byd tebyg i brosiect o’r fath i ddod a phobl at ei gilydd. Erbyn hyn mae’r gwaith wedi ei gwblhau a phawb yn cartrefu’n ardderchog mewn addoldy y gallwn fod yn falch ohono. Mae’r diolch am hynny i Tom Griffiths y cynllunydd, sydd yn un o’n haelodau a’r Brodyr Anwyl.

Y penwythnos diwethaf bu Penwythnos y Dathlu. Nos Wener cafwyd cinio ardderchog yn Aberhod yng nghwmni y gŵr gwadd, sef, y Parch. W. R. Williams, y Felinheli. Gallwch feddwl ein bod wedi cael noson hwyliog dros ben. Ddydd Sadwrn cafwyd diwrnod agored a chyfle i’r cyhoedd a hen ffrindiau ddod i ymweld ac i fwynhau sgwrs dros baned. Bore Sul cafwyd gwasanaeth arbennig o Ddiolchgarwch am ein Heglwys newydd wedi ei drefnu gan y Gweinidog, y Parch. R. J. Owen Griffiths. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Parch. Gareth Edwards, Porthmadog, Llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd.

I roi pen ar y mwdwl cynhaliwyd cyngerdd safonol Nos Sul gyda’r Capel yn orlawn. Yr artistiaid oedd Anette Bryn Parry a Dylan Cernyw (Piantel), Unawdydd Hedd Griffiths a’r Parch, Robert Parry ar yr Organ. Bydd yr elw yn cael ei gyflwyno i Tŷ Gobaith a Hosbis Dewi Sant.

Mae’r englyn a’r cwpled a dderbyniwyd gan y beirdd ar gyfer yr achlysur i’w gweld yng nghyntedd y Capel a phawb yn dotio o’u cael.

Heddiw yr aelwyd ddiddos a rannwn
a’r un yw yr Achos,
a’i air fydd eto’n aros
ar waith yng Nghapel y Rhos.

Tudur Dylan Jones.

Ar hen sail wele heno
Newydd fflam ei aelwyd O.

John Gruffydd Jones.

Ar ôl y dathlu mae’r gwir waith yn dechrau. Diolchwn bod ysbryd bositif yn ein plith i wynebu’r her sydd o’n blaenau. Capel newydd, dechrau newydd a bywyd newydd.

Mair Pope (Ysgrifennydd)

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20/10/2008