Mae mesurau trethiant newydd y Canghellor yn gam
yn y cyfeiriad iawn – ond rhaid gwneud mwy i ofalu am bobl
fregus, yn ôl arweinwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mewn llythyr agored i arweinwyr gwleidyddol
Prydain, mae’r Eglwys Bresbyteraidd, ynghyd ag eglwysi ac
elusennau blaenllaw eraill, yn galw ar y llywodraeth i gymryd
“camau hy ac eofn” i amddiffyn tlodion cymdeithas yn ystod y
dirwasgiad disgwyliedig.
“Y ffaith yw nad yw’r hyn a gyhoeddodd y
Canghellor yn mynd yn ddigon pell. Erys y boen a’r gofid ymhlith
y nifer gynyddol o deuluoedd a phensiynwyr tlawd” meddai y
Parchedig Haydn Thomas, Llywydd yr Eglwys a chyn-Gyfarwyddwr
Cyngor Henoed Cymru. “Nid nawr yw’r amser i ddadlau ar bwy mae’r
bai ond amser i wneud rhywbeth realistig i leddfu’r boen. Beth
am y bobl sy’n colli cartrefi a swyddi, y rheini sy’n cael eu
dal yn rhwyd y benthycwyr answyddogol, pensiynwyr sy’n gorfod
dewis rhwng bwyta a chadw’n gynnes? Oes rhywun yn gofalu amdanyn
nhw?”
“Os yw’r canghellor yn meddwl bod ei ddatganiad
yn mynd i leihau’r gofid a bod y cynigion yn mynd i ddarys
problemau‘r teuluoedd, nid yw yn deall eu gwir broblemau. Nid
yw’r Llywodraeth yno i achub eu croen eu hunain ond i wasanaethu
y bobl a’u rhoes yno.”
Mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod diweithdra
wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU.
Roedd 24,000 yn fwy o bobl yn ddiwaith ym mis Medi o’i gymharu â
mis Gorffennaf.
“Mae’r ystadegau yma yn cynrychioli poen a loes i
lawer o deuluoedd ar draws y wlad ac unwaith eto, mae Cymru
ymysg y rhannau o Brydain sy’n dioddef fwyaf,” meddai Mervyn
Phllips, llefarydd yr Eglwys ar faterion eglwys a chymdeithas.
“Wrth gynllunio prosiectau newydd yn ystod yr
argyfwng economaidd, dylai’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i’r
ardaloedd mwyaf anghenus. Dylid rhoi gwybodaeth glir a chynnar
ynglŷn ag adnoddau ar gyfer prosiectau isadeiledd lleol sy’n
darparu cyflogaeth ac hefyd yn cyfarfod â’r angen am well tai,
ysgolion ac ysbytai ac ati.”
Mae’r llythyr i arweinyddion gwleidyddol yn galw
am Gynllun Adferiad Economaidd ar gyfer y DU i amddiffyn y bobl
allai ddioddef fwyaf yn sgil y dirywiad. Ymysg pethau eraill,
dylai hwn gynnwys:
-
Gweithredu nawr yn erbyn tlodi tanwydd, gan
ariannu taliadau tanwydd gaeaf i bob cartref sy’n derbyn
budd-daliadau.
-
Gwario £3bn i wella incwm y teuluoedd tlotaf,
a sicrhau bod y llywodraeth yn cadw at ei haddewid i hanneru
tlodi plant erbyn 2010.
-
Cyflwyno taliadau awtomatig ar gyfer Credydau
Pensiwn a budd-daliadau Treth Cyngor ar gyfer pobl hŷn sy’n
gymwys i dderbyn taliadau ond sydd ddim yn eu derbyn.
-
Cynyddu’r arian sydd ar gael ar gyfer
adeiladu tai cymdeithasol, gan ddiogelu miloedd o swyddi yn
y diwydiant adeiladu.
-
Gwahardd cwmnïau egni rhag codi tâl uwch ar
bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhag-dalid. Mae’r bobl yma
yn aml yn dlotach.
-
Gorfodi
banciau i beidio trin cwsmeriaid a chymunedau tlotach yn
anffafriol, a chymryd camau llym yn erbyn arferion benthyg
anheg.
Gallwch
ddarllen yr hanes yn Y Cymro drwy glicio
yma.