Mae
pob eglwys wedi derbyn copi o CD y Rhaglen Genhadol, a nawr
gallwch lawrlwytho'r sesiynau hyfforddi sydd ar y CD honno
oddi ar ein gwefan.
Mae'r sesiynau yma yn trafod ystod eang o bynciau a'u hamcan yw
annog eglwysi a gofalaethau i ddatblygu arweinyddiaeth newydd.
Gallwch lawrlwytho cyflwyniadau Powerpoint a nodiadau cyfatebol,
ac mae'r cyfan yn barod i gael ei ddefnyddio gyda grwpiau
trafod, ysgolion Sul ac ati.

Datblygwyd y Rhaglen Genhadol mewn cydweithrediad â'r Annibynwyr
a'r Bedyddwyr felly da chi, defnyddiwch nhw mewn cydweithrediad
ag eglwysi lleol eraill.