Angen Rhoi Blaenoriaeth i Gymru
Dylid rhoi blaenoriaeth i ardaloedd tlawd fel
Cymru yn ystod yr argyfwng economaidd, yn ôl arweinwyr
Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mewn llythyr i’r Prif Weinidog, Gordon Brown,
mae’r Eglwys yn pwyso ar lywodraeth Prydain i sicrhau bod ei
pholisïau wedi eu hanelu tuag at y bobl dlotaf yn y rhannau
tlotaf o’r Deyrnas Unedig.
“Mae ystadegau, gan gynnwys rhai diweithdra,
yn dangos bod pobl Cymru eto ymysg y rhai sydd wedi eu bwrw
galetaf,” meddai Mervyn Phillips, Cadeirydd Adran Eglwys a
Chymdeithas yr Eglwys. “Wrth i’r llywodraeth ddatblygu
rhaglenni i daclo’r argyfwng economaidd, hoffem eu gweld yn
rhoi blaenoriaeth eglur i’r ardaloedd mwyaf anghenus. Rydym
yn awyddus iawn i weld y rhaglenni y mae’r llywodraeth yn eu
cynnig yn cael eu gweithredu yn sydyn ac mewn ffordd sy’n
berthnasol i’r ardaloedd a’r teuluoedd mwyaf bregus.”
Daw’r llythyr ar ddiwedd wythnos o
ddiswyddiadau pellach yng Nghymru. Mae ystadegau diweddar yn
awgrymu bod diweithdra wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag yn
unrhyw ran arall o’r DU. Roedd 24,000 yn fwy o bobl yn
ddiwaith ym mis Medi o’i gymharu â mis Gorffennaf. Awgrymodd
arolwg diweddar y bydd un allan o bob pum busnes yng
ngogledd Cymru wedi mynd i’r wal ymhen blwyddyn.
Mae’r llywodraeth eisoes wedi cymryd rhai
camau tuag at gefnogi teuluoedd, gan addo cymorth gyda thalu
morgeisi i’r rhai sy’n wynebu trafferthion. “Rydym yn
gwerthfawrogi’r camau sydd eisoes wedi eu cymryd a’r
flaenoriaeth a roddwyd yn y rhaglen ddeddfu i adnewyddiad
economaidd,” meddai Mervyn Phillips. “Ond mae’n rhaid
targedu’r ardaloedd tlotaf, ac rydym yn gobeithio y bydd y
camau sydd eisoes wedi eu cymryd yn sail i raglen fydd yn
gwella hyder ac yn rhoi blaenoriaeth glir i anghenion pobl
dlawd a bregus."
Yn ôl y Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd
Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae cydweithredu
rhwng llywodraeth ar bob lefel yn hollbwysig ar adeg fel
hon.
"Yn
yr argyfwng hwn, bydd y llywodraeth ddatganoledig yng
Nghymru yn cydweithio’n agos ag adrannau’r llywodraeth yn
San Steffan, a byddwn ninnau hefyd yn ysgrifennu at Brif
Weinidog Cymru,” meddai. “Mae mwy o newyddion am golli
swyddi bob dydd, felly nawr yw’r amser i roi dadleuon
gwleidyddol o’r neilltu a chymryd camau eofn i helpu’r degau
o filoedd o Gymry sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng.
Byddwn yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i bwyso ar
Lywodraeth y DU fel bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i
ardaloedd tlotaf Cymru. Fel cefnogwyr yr ymgyrch Church
Action on Poverty, credwn nad nawr yw’r amser i anghofio
am y rhai sydd mewn dirfawr angen.”