CYB@7: Coleg y Bala am 7
Gwasanaeth anffurfiol a
bywiog yn Ngholeg y Bala am saith o’r gloch pob nos Sul ydi
CYB@7. Yr hyn sydd yn gwneud CYB@7 yn wahanol
i wasanaethau traddodiadol ydi’r rhyddid a’r awyrgylch
ymlaciol sydd i’w gael.
Rydym yn dechrau gyda
chacen a phaned wrth i bawb gyrraedd a sgwrsio. Yna, cawn
amser o addoliad ar gân ac ar weddi gyda’r rhyddid i bawb
gyfrannu fel y mynent. Rydym yn rhoi’r cyfle i’r ieunectid
sydd yn mynychu’r gwasanaeth i arwain yr addoliad, er mwyn
magu eu hyder a’u dawn yn arwain.

Owain sydd wedyn yn arwain
yr astudiaeth, ond mae’r rhyddid yna i bawb gyfrannu ac
annog ein gilydd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ein
ffordd drwy llyfr y Phillipiaid, gyda’r her o beth yn union
ydi byw dros Grist drwy’r adeg.
Yna ar y diwedd, rydym yn
gwahanu’r grŵp yn oedolion a’r ieunectid, i ni gael cyfle i
rannu ein profiadau personol a beth sydd wedi ein bendithio
ni am y Gair, a chawn gyfle i weddio dros ein gilydd ar y
diwedd.
Mae CYB@7 yn
profi’n hynod feindithiol i bobl a ieunectid yr ardal, a
phawb yn cael eu herio i adlewyrchu Crist yn eu bywydau o
ddydd i ddydd. Mae’r annogaeth sydd i’w gael o fod yn rhan o
gymuned Gristnogol glos, fel sydd yn CYB@7 yn
wefreiddiol, ac yn rhywbeth ddylai pawb ystyried fod yn
gysylltiedig efo.
Eleri Jones